"Yr oedd Pwyll Pendefig Dyfed yn arglwydd ar saith cantref Dyfed"

Roedd Dyfed, ynghyd â Gwynedd, Powys, Ceredigion, Brycheiniog, Gwent a Glywysing (Morgannwg yn nes ymlaen), yn un o’r mân deyrnasoedd a ddaeth i fodolaeth yng Nghymru yn y cyfnod ôl-Rufeinig. Roedd Dyfed yn cynnwys yr hyn sydd heddiw yn Sir Benfro a rhannau o’r hyn sydd heddiw yn Sir Gaerfyrddin. Yn 920, yn ystod cyfnod Hywel Dda, unwyd Dyfed â Seisyllwg i ffurfio Deheubarth.

Teyrnasoedd Cymru (700-1000)
Creative Commons Attribution Share AlikeTeyrnasoedd Cymru (700-1000) - Credyd: Alex D

Yn 1974 atgyfodwyd Dyfed yn enw ar siroedd Aberteifi, Caerfyrddin a Phenfro, ond fe’i dilëwyd yn 1996 yn dilyn rhagor o ad-drefnu ffiniau.

Roedd y cantref yn un o unedau tiriogaethol Cymru’r Canol Oesoedd. Yn draddodiadol, roedd pob cantref yn cynnwys cant o unedau llai a elwid yn drefi. Rhennid y cantrefi hefyd yn unedau llai o’r enw cymydau. Roedd y cantref yn debyg iawn i’r hundred a fodolai yn Lloegr. Yn dilyn y Deddfau Uno, rhannwyd Cymru yn 90 o hundreds, ac roedd rhai o’r rheiny yn cadw at ffiniau’r hen gantrefi.

Enwau saith cantref Dyfed oedd Cantref Gwarthaf, Cemais, Daugleddau, Emlyn, Pebidiog, Penfro a Rhos. Ar y map ceir gweld hefyd sawl cantref arall y cyfeirir ato yn Y Mabinogion gan gynnwys Aberffraw, Arllechwydd (y cyfeirir ato weithiau fel cwmwd), Arwystli, Dunoding, Gwent Is coed a Phenllyn.