"a hynodrwydd y pair yw, y deiliaid iti a ladder heddiw, ei fwrw yn y pair ac erbyn yfory fe fydd cystal ag y bu ar ei orau ond na bydd ganddo leferydd"

Ymddengys i’r pair fod o arwyddocâd arbennig yn yr hen draddodiad Celtaidd. Un enghraifft bwysig sydd wedi goroesi yw pair Gundestrup y daethpwyd o hyd iddo mewn mawnog yn Nenmarc yn 1891. Pair arian wedi’i addurno’n gelfydd iawn yw’r pair hwn, a chredir iddo ddeillio o Oes yr Haearn. Ymhlith y ffigurau sydd wedi’u cerfio arno y mae un o ddyn corniog sydd o bosib yn cynrychioli    Cernunnos, y duw corniog Celtaidd. Yn fwy diddorol byth, y mae hefyd gerfiad o res o ddynion yn cael eu taflu i bair ac yn ailymddangos wedyn ar gefn ceffylau, sefyllfa sy’n hynod debyg i’r hyn a ddisgrifir yn chwedl Branwen ferch Llŷr.

Mae sôn am beiriau hefyd mewn llawysgrifau Cymraeg o’r Canol Oesoedd hwyr (er ei bod yn debyg fod y deunydd yn hanu o gyfnod llawer cynharach). Er enghraifft, ymhlith Tri Thlws ar Ddeg Ynys Prydain, ceir sôn am bair y cawr Dyrnwch, ac y mae pair Ceridwen yn ganolog i chwedl Taliesin. Yn y traddodiad Gwyddelig, y mae pair Dagda yn un o bedwar trysor y bobl chwedlonol a elwir yn Tuatha Dé Danann.

Y pair fel y'i portreadir ar Bair Gundestrup
GNU Free Documentation LicenseY pair fel y'i portreadir ar Bair Gundestrup - Credyd: Malene Thyssen, http://commons.wikimedia.org/wiki/User:Malene

 

Y ffigur corniog ar bair Gundestrup
Creative Commons Attribution Share AlikeY ffigur corniog ar bair Gundestrup - Credyd: Bloodofox