"ac fe ddiangasant o'r tŷ haearn yn Iwerddon pan y'i gwnaed yn wyn o'u cwmpas"

Ceir cyfeirio at roi pobl mewn ‘tŷ haearn’ a cheisio eu dinistrio drwy wresogi’r tŷ yn y ddwy stori Wyddeleg, Mesca Ulad (‘Meddwi Dynion Wlster’) a Orgain Denna Ríg (‘Dinistr Dind Ríg'). Y mae’r ddwy wedi’u cadw yn Llyfr Leinster.