"A'r bore trannoeth gofynnodd y forwyn am ei thâl morwynol oherwydd ei chael yn forwyn"
Illustration from the Codex Manesse (1305-1350)
Public DomainDarlun o'r Codex Manesse (1305-1350) - Credyd: anhysbys

Cyn i'r Deddfau Uno gael eu pasio yn yr unfed ganrif ar bymtheg, roedd y Gyfraith  yng Nghymru yn wahanol i'r Gyfraith yn Lloegr. Rhoddwyd trefn ar gyfreithiau Cymru yn y ddegfed ganrif yn ystod cyfnod Hywel Dda. Roedd rhai o'r cyfreithiau hyn yn ymwneud â hawliau merched yn benodol. Yn eu plith roedd deddf yn datgan bod gŵr yn gorfod talu'r hyn a elwir yn gowyll i'w wraig ar ôl y tro cyntaf iddo gysgu gyda hi fel cydnabyddiaeth o'i gwyryfdod.Mae'n debyg felly y dylid defnyddio'r gair cowyll yn y fan hon, yn hytrach na thâl morwynol.

Fodd bynnag, roedd cyfeirio yn y deddfau Cymreig at daliad arall, a elwir yn 'maiden-fee' yn Saesneg ac amobr yn Gymraeg. Hwn oedd y swm yr oedd tad yn gorfod ei dalu i'r arglwydd ffiwdalaidd pan gollai ei merch ei gwyryfdod.

Ceir cyfeirio hefyd at y tâl morwynol yn Culhwch ac Olwen.