"Fe elwid Caer Fyrddin felly am i'r gaer gael ei gwneuthur gan fyrdd o wŷr"

Ceir yma esboniad arall ar darddiad enw lle, sef Caerfyrddin yn yr achos hwn. Esboniad arall ar darddiad Caerfyrddin  yw ei fod yn cyfeirio at y dewin chwedlonol Myrddin/Merlin.

Ar y cyfan, fodd bynnag, derbynnir mai'r esboniad mwyaf dilys yw bod yr enw Caerfyrddin yn deillio o'r enw Maridunum neu Moridunum, a oedd yn gaer Rufeinig ar safle tref Caerfyrddin fel ag y mae heddiw.

 

Google Map