"Ac ar hynny, wele, feirdd yn dod i ddatgan cerdd i Arthur. Ac nid oedd dyn a adwaenai'r gerdd honno ond Cadriaith ei hun"

Cerddi Aneirin a Thaliesin yn hanu o'r chweched ganrif yw'r cerddi cynharaf sydd ar gof a chadw yn y Gymraeg*. Fel arfer, rhennir beirdd canoloesol Cymraeg yn dair carfan. Yn y garfan gyntaf, y mae'r Cynfeirdd, beirdd a oedd wrth eu gwaith rhwng y chweched ganrif a'r unfed ganrif ar ddeg. Yn yr ail garfan, y mae Beirdd y Tywysogion a fu wrthi'n cyfansoddi rhwng diwedd yr unfed ganrif ar ddeg a goresgyniad Cymru gan Edward I yn 1282. Yn y drydedd garfan, ceir Beirdd yr Uchelwyr a oedd wrth eu gwaith o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg a dirywiad y traddodiad barddol Cymraeg yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Credir i farddoniaeth gynnar Gymraeg gael ei pherfformio i gyfeiliant  telyn, crwth, neu guro rhythmig ffon.

(* Noder y siaredid fersiwn o'r Gymraeg mewn rhannau o ogledd Lloegr a de'r Alban yn ystod cyfnod Aneirin a Thaliesin)

Y mae'r sylw uchod am y beirdd a ddaeth i ddatgan eu gwaith i Arthur yn un dychanol. Credir i Freuddwyd Rhonabwy gael ei hysgrifennu yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg. Y mae'n debyg, felly, mai Beirdd y Tywysogion yw'r cocyn hitio yn y fan hon. Yr awgrym yw bod eu gwaith yn rhy astrus a'u bod nhw wedi colli cysylltiad â'u cynulleidfaoedd.

Cliciwch yma i ddarllen am waith arbrofol sy'n cael ei wneud ar y cysylltiad rhwng barddoniaeth a cherddoriaeth yn y Gymru ganoloesol.