"A gelwir y stori hon 'Breuddwyd Rhonabwy'. (A dyma'r achos na ŵyr neb y freuddwyd, na bardd na chyfarwydd, heb lyfr oherwydd cynifer y lliwiau a oedd ar y meirch a'r amryfal liwiau prin ar yr arfau a'u harneisiau ac ar y mentyll gwerthfawr a'r cerrig rhiniol.)"
Facsimile of the 'Red Book of Hergest'
Public DomainFfacsimili o 'Lyfr Coch Hergest' - Credyd: Copïwr: Hywel Fychan fab Hywel Goch o Fuellt

Coloffon (colophon), sef datganiad ar ddiwedd llyfr neu lawysgrif sy'n rhoi gwybodaeth am y testun, megis ei gomisiynydd, ei deitl, neu ei nod, yw'r enw a roddir ar linellau cloi Breuddwyd Rhonabwy.

Cydnabyddir yn gyffredinol fod pob stori yn Y Mabinogion (ac eithrio un) yn perthyn i draddodiad llafar a sicrhaodd i'r straeon fynd o genhedlaeth o genhedlaeth drwy weithgaredd y cyfarwydd (adroddwr straeon). Yr eithriad yw Breuddwyd Rhonabwy, gan y credir i honno fod yn waith llenyddol gwreiddiol yn hytrach na thrawsgrifiad o stori a adroddid ar lafar.

 Y mae'r coloffon yn awgrymu bod y dull llenyddol yn rhagori ar y dull llafar. Mae'n awgrymu hefyd mai pwrpas y disgrifiadau cymhleth sydd yn y stori yw trechu'r cyfarwydd a dangos felly wendidau'r cyfrwng llafar. Fodd bynnag, fel y cytunai unrhyw un sydd wedi darllen Culhwch ac Olwen (un o'r chwedlau hynaf yn Y Mabinogion), nid oedd cymhlethdod yn rhywbeth a oedd yn debyg o fod yn faen tramgwydd i'r cyfarwydd!