"Yr oedd piau Iarll Efrog iarllaeth yn y Gogledd"
'The Old North'
Creative Commons Attribution Share Alike'Yr Hen Ogledd' - Credyd: Notuncurious

Yr enw Cymraeg ar York yw Efrog.

Ystyr y Gogledd  yn y fan hon yw'r hyn a elwir weithiau ‘Yr Hen Ogledd’ ('The Old North'). Hwn yw'r enw a roddir i'r rhannau o ogledd Lloegr a de'r Alban lle siaredid fersiwn o'r iaith Frythoneg yn y cyfnod canoloesol cynnar rhwng tua 500 a 800. Y Frythoneg (Brythonic) oedd iaith Celtiaid Prydain a ddatblygodd yn bedair iaith wahanol: Cymraeg, Llydaweg, Cernyweg a Chymbrieg (Cumbric).