Page 1. " Y Mabinogion "

 The Mabinogion yw'r enw a roddwyd gan y Fonesig Charlotte Guest i’r casgliad o chwedlau Cymraeg brodorol a gyfieithwyd ganddi i’r Saesneg, ac a gyhoeddwyd mewn dwy gyfrol rhwng 1838 a 1849. Roedd y chwedlau gwreiddiol i’w cael yn bennaf mewn dau gasgliad o lawysgrifau canoloesol, sef Llyfr Gwyn Rhydderch (c. 1350) a Llyfr Coch Hergest (c.1400).

Yng nghyfieithiad y Fonesig Guest ymddengys y chwedlau o dan y teitlau Saesneg canlynol: The Lady of the Fountain; Peredur the son of Evrawc; Geraint the son of Erbin; Kilhwch and Olwen; The Dream of Rhonabwy; Pwyll Prince of Dyfed; Branwen the Daughter of Llyr; Manawyddan the son of Llyr; Math the son of Mathonwy; The Dream of Maxen Wledig; Lludd and Llevelys; and Taliesin.

Yn nes ymlaen, cyhoeddwyd cyfieithiadau eraill o’r un chwedlau (ac eithrio Taliesin) lle y cadwyd y teitl The Mabinogion ar gyfer y casgliad yn ei gyfanrwydd. Ymhlith y cyfieithiadau hyn, ceir un gan T.P. Ellis a John Lloyd (1929) ac un arall gan Gwyn Jones a Thomas Jones (1948). Cafodd fersiwn Ffrangeg o’r chwedlau gan Joseph Loth ei chyhoeddi am y tro cyntaf yn 1889, a bu i Loth yntau ddilyn yn olion traed y Fonesig Guest drwy ddewis y teitl Les Mabinogion.

Cliciwch yma i ddarllen cyfieithiad y Fonesig Guest ar-lein.

Page 1. " Pwyll Pendefig Dyfed "
Pryderi a Rhiannon fel y'u portreadir yn stori Thomas Wentworth Higginson (1898), wedi'i seilio ar 'drydedd gainc y Mabinogi'
Public DomainPryderi a Rhiannon fel y'u portreadir yn stori Thomas Wentworth Higginson (1898), wedi'i seilio ar 'Drydedd Gainc y Mabinogi' - Credyd: Albert Herter

Yn Gymraeg, gelwir y straeon y mae’r Fonesig Guest yn eu galw yn Pwyll Prince of Dyfed; Branwen the Daughter of Llyr; Manawyddan the son of Llyr; a Math the son of Mathonwy yn Bedair Cainc y Mabinogi (neu Bedeir Keinc y Mabinogi). Y mae’r ymadrodd ‘The Four Branches of the Mabinogion’ wedi’i fabwysiadu yn Saesneg hefyd. Cyfeirir yn aml felly yn Saesneg at the First, Second, Third and Fourth Branches of the Mabinogion neu yn Gymraeg at Gainc Gyntaf, Ail Gainc, Trydedd Gainc a Phedwaredd Gainc y Mabinogi.

Yn y llawysgrifau, y mae’r gair geing (cainc) yn ymddangos ar ddiwedd (neu tua diwedd) pob un o'r chwedlau a adnabyddir heddiw fel 'y Pedair Cainc'. Er enghraifft, y mae Math fab Mathonwy yn gorffen gyda’r geiriau: Ac yuelly y teruyna y geing honn o'r Mabinogi (Ac felly y terfyna’r gainc hon o’r Mabinogi). Ystyr y gair cainc yw cangen, ac y mae mabinogi yn hen air Cymraeg sy’n cyfateb i’r gair Lladin infantia, neu’r gair Ffrangeg enfance. Gan ddibynnu ar y cyd-destun, gall ystyr y gair mabinogi fod yn: cyfnod llencyndod; stori am gyfnod llencyndod; stori am arwr, neu jest stori. Yng nghyd-destun y Pedair Cainc, dichon bod y chwedlau yn cyfeirio at gyfnod llencyndod y cymeriad Pryderi, er ei bod yn bwysig nodi mai prin y cyfeirir ato o gwbl yn Branwen Merch Llyr a Math Mab Mathonwy.

Ar ddiwedd y fersiwn wreiddiol Gymraeg o’r stori a elwir bellach yn Pwyll Pendefig Dyfed, y mae’r gair mabinogi yn cael ei ysgrifennu ar gam fel mabynnogyon (neu mabinogion mewn orgraff gyfoes). Ni sylweddolodd y Fonesig Guest mai gwall ar ran copïwr y llawysgrif oedd y gair mabinogion, a phendefynodd ei ddefnyddio am ei chasgliad o chwedlau wedi’u cyfieithu yn ei gyfanrwydd. Mewn gwirionedd, wrth gwrs, nid oes tystiolaeth bod y gair mabinogion erioed wedi bodoli yn y Gymraeg, ac enw priodol ar gyfer pedair chwedl gyntaf y casgliad yn unig yw’r term mabinogi. Wedi dweud hynny, mae’n rhaid cydnabod bod y teitl The Mabinogion wedi hen ennill ei blwyf yn Saesneg ymhlith cyfieithwyr, beirniaid llenyddol a darllenwyr.

Page 1. " Yr oedd Pwyll Pendefig Dyfed yn arglwydd ar saith cantref Dyfed "

Roedd Dyfed, ynghyd â Gwynedd, Powys, Ceredigion, Brycheiniog, Gwent a Glywysing (Morgannwg yn nes ymlaen), yn un o’r mân deyrnasoedd a ddaeth i fodolaeth yng Nghymru yn y cyfnod ôl-Rufeinig. Roedd Dyfed yn cynnwys yr hyn sydd heddiw yn Sir Benfro a rhannau o’r hyn sydd heddiw yn Sir Gaerfyrddin. Yn 920, yn ystod cyfnod Hywel Dda, unwyd Dyfed â Seisyllwg i ffurfio Deheubarth.

Teyrnasoedd Cymru (700-1000)
Creative Commons Attribution Share AlikeTeyrnasoedd Cymru (700-1000) - Credyd: Alex D

Yn 1974 atgyfodwyd Dyfed yn enw ar siroedd Aberteifi, Caerfyrddin a Phenfro, ond fe’i dilëwyd yn 1996 yn dilyn rhagor o ad-drefnu ffiniau.

Roedd y cantref yn un o unedau tiriogaethol Cymru’r Canol Oesoedd. Yn draddodiadol, roedd pob cantref yn cynnwys cant o unedau llai a elwid yn drefi. Rhennid y cantrefi hefyd yn unedau llai o’r enw cymydau. Roedd y cantref yn debyg iawn i’r hundred a fodolai yn Lloegr. Yn dilyn y Deddfau Uno, rhannwyd Cymru yn 90 o hundreds, ac roedd rhai o’r rheiny yn cadw at ffiniau’r hen gantrefi.

Enwau saith cantref Dyfed oedd Cantref Gwarthaf, Cemais, Daugleddau, Emlyn, Pebidiog, Penfro a Rhos. Ar y map ceir gweld hefyd sawl cantref arall y cyfeirir ato yn Y Mabinogion gan gynnwys Aberffraw, Arllechwydd (y cyfeirir ato weithiau fel cwmwd), Arwystli, Dunoding, Gwent Is coed a Phenllyn.

 

Page 1. " Dyma'r rhanbarth o'i deyrnas a fynnai ei hela, Glyn Cuch "

Dyffryn hyfryd, coediog Afon Cuch (un o isafonydd Afon Teifi) yw Glyn Cuch neu Gwm Cuch, ac i bob pwrpas y mae cwrs Cuch yn dilyn y ffin rhwng Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Roedd Is Cuch ac Uwch Cuch yn enwau ar ddau o’r cymydau canoloesol.

Afon Cuch:

Afon Cych

Page 2. " 'O Annwfn,' meddai yntau, 'Arawn, brenin Annwfn wyf i.' "
St. Michael's Mount ar fachlud haul
Creative Commons Attribution Share AlikeSt. Michael's Mount ar fachlud haul - Credyd: Bob Jones

Enw ar Fyd Arall y Celtiaid yw Annwfn neu Annwn, a’i ystyr yw ‘na-fyd’ neu’r ‘byd y tu mewn’. Ar ôl dyfod Cristnogaeth, defnyddid hefyd yn enw ar uffern. Nid yw’r cysyniad o Fyd Arall, na’i leoliad, yn hollol glir, naill ai yn y traddodiad Cymreig neu yn nhraddodiadau’r gwledydd Celtaidd eraill. Yn y gerdd Preiddiau Annwfn o’r Canol Oesoedd cynnar, ceir disgrifiad o ymweliad y Brenin Arthur a’i ddynion â nifer o ‘gaerau’ yn Annwfn, ond anodd yw deall union arwyddocâd y rhain. Weithiau lleolir y Byd Arall ar ynys, fel Ynys Afallon (Isle of Avalon yn Saesneg). Y mae rhai lleoedd go iawn wedi’u crybwyll fel lleoliad Ynys Afallon, gan gynnwys Ynys Enlli, Ynys Wydrin (Glastonbury) a St. Michael’s Mount yng Nghernyw. Yn y traddodiad Gwyddelig y mae  amryw o enwau ar gyfer y Byd Arall. Ymhlith y rhain y mae Tír na n-Óg ('Gwlad yr Ifanc'); Tir Tairngire ('Gwlad yr Addewid') a Tir na t-Samhraidh ('Gwlad yr Haf').

Page 2. " a'm pryd a'm gwedd innau arnat ti, fel na bo na gwas ystafell, na swyddog, na dyn arall o'r rhai a'm canlynodd i erioed a wypo nad myfi wyt ti "
'Beauty and the Beast'
Creative Commons Attribution Share Alike'Beauty and the Beast' - Credyd: Jan Vermeiren/Orvieto 62

Ceir yma grybwyll y cysyniad a elwir yn Saesneg yn shapeshifting, sy’n thema bwysig mewn sawl chwedloniaeth, gan gynnwys chwedloniaeth y Celtiaid.

Y mae’n cyfeirio naill ai at allu unigolyn i’w drawsnewid/thrawsnewid ei hun yn rhywbeth neu rywun arall drwy rym goruwchnaturiol, neu ei allu/gallu i drawsnewid eraill yn yr un modd. Yn Gymraeg gellir sôn am gael eich rhithio yn rhywbeth/rhywun, neu rhithio rhywbeth/rhywun yn rhywbeth/rhywun.

Ar wahân i allu Arawn i drawsnewid Pwyll, y mae sawl esiampl arall o’r un gallu yn Y Mabinogion. Yn Math fab Mathonwy, er enghraifft, trawsnewidir Gwydion a Gilfaethwy yn anifeiliaid, Lleu yn eryr, a Blodeuwedd yn dylluan.

Page 7. " cododd Pwyll i gerdded, a chyrchu pen bryncyn a elwid Gorsedd Arberth a oedd uwchlaw'r llys "
Carnedd Brown Low ger Marple yn ardal Manceinion
Creative Commons Attribution Share AlikeCarnedd Brown Low ger Marple yn ardal Manceinion - Credyd: Dave Dunford

Credir y cyfeirir yma at Arberth (Narberth yn Saesneg) yn ne-ddwyrain Sir Benfro. Ystyr gorsedd yn y cyd-destun hwn yw carnedd (yr hyn a elwir yn Saesneg yn barrow neu tumulus neu cairn).

Tomenni o bridd neu gerrig yw carneddau. Fe'u crëid o’r cyfnod cynhanesyddol hyd at tua’r nawfed ganrif. Yn sgil cloddio archaeolegol mae crochenwaith, eitemau cerrig, ac esgyrn pobl ac anifeiliaid wedi’u darganfod mewn carneddau. Credid am gyfnod hir mai claddu’r meirw oedd prif swyddogaeth y safleoedd hyn, ond awgrymir bellach eu bod wedi chwarae rhan fwy cymhleth ym mywydau pobl y gorffennol.

Y mae wedi’i grybwyll mai Camp Hill, safle Oes yr Haearn i’r de o Arberth, yw lleoliad posib Gorsedd Arberth. Cliciwch yma ac yma am fwy o wybodaeth.

  

Page 10. " Rhiannon ferch Hefëydd Hen wyf i "
Cerflun o Epona
Creative Commons AttributionCerflun o Epona - Credyd: Rosemania

Credir bod sawl un o gymeriadau’r Mabinogion yn cynrychioli duwiau Celtaidd y cyfnod cyn-Gristnogol. Awgrymir am mai mynachod neu ddynion crefyddol oedd copïwyr y llawysgrifau, y gallent fod wedi bod yn gyndyn o sôn am anturiaethau duwiau a duwiesau paganaidd, ac y byddent felly wedi israddio eu statws i fod yn arwyr ac arwresau.

Cerflun o Epona
Creative Commons Attribution Share AlikeCerflun o Epona - Credyd: Owen Cook

Mae Rhiannon wedi’i chysylltu â Rigantona, duwies Geltaidd na wyddys llawer amdani; ag Epona, duwies ffrwythlondeb a noddwraig ceffylau, ac â Dea Matrona, duwies Afon Marne yng Ngâl y cyfeirir ati weithiau fel y Fam Dduwies (‘The Great Mother’). Pwysleisir cysylltiadau Rhiannon â cheffylau yn Pwyll Pendefig Dyfed gan ei doniau marchogaeth goruwchnaturiol, a chan y ffaith ei bod yn cael ei gorfodi i gario pobl ar ei chefn fel pe bai hi ei hun yn geffyl.

 

Page 16. " gŵr a garent gymaint â'u hargwlydd a'u brawdfaeth "
'Y Cyfarpar Newydd' (1858)
Public Domain'Y Cyfarpar Newydd' (1858) - Credyd: Franz Eduard Meyerheim

Dyma’r cyntaf o sawl cyfeiriad at y cysyniad o faethu ac at frodyr maeth yn Y Mabinogion. Credir i’r arfer o anfon merched a bechgyn i fyw gyda rhieni maeth fod yn un gyffredin yn Iwerddon yn ystod y Canol Oesoedd cynnar. Ystyrid hyn yn ffordd o ddysgu sgiliau i’r plant ac o gryfhau’r cysylltiadau rhwng teuluoedd. Nid yw mor glir, fodd bynnag, pa beth yn union oedd y sefyllfa yng Nghymru.

Wedi dweud hynny, y mae yn hysbys fod yna draddodiad yng Nghymru yr Oesoedd Canol o ddysgu bechgyn o dras uchel ystod o sgiliau a elwir  y pedair camp ar hugain, ac y mae'n bosib y dysgid y rheini pan oedd bachgen gyda rhieni maeth. Ymhlith y pedair camp ar hugain yr oedd gorchestion yn ymwneud â chryfder, ymgodymu (reslo), nofio, saethu â bwa, cleddyfa, heboca, a datgan barddoniaeth i gyfeiliant  y delyn.

Page 16. " Dyma'r lle y daethant ynghyd, y Preselau yn Nyfed "
Lleolir mynyddoedd y Preseli yng ngogledd Sir Benfro y tu mewn i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Y mae cylch mewnol Côr y Cewri yn Wiltshire wedi’i wneud o garreg las yr un ffunud â’r hyn sydd ar gael yn y Preseli. Damcaniaethir felly y cafodd carreg las y Preseli ei chludo i Wiltshire, er y cydnabyddir y byddai hynny wedi bod yn homer o fenter. Damcaniaeth arall yw i’r garreg las gael ei gosod yn ardal Côr y Cewri yn sgil gweithrediad rhewlifol.

Y Preseli, hefyd, yw un o’r lleoliadau yr ymwelir ag ef gan y Twrch Trwyth yn Culhwch ac Olwen.

 

 

Cylch cerrig Bedd Arthur yn y Preselau
Creative Commons Attribution Share AlikeCylch cerrig Bedd Arthur yn y Preseli - Credyd: Andrew Howey

 

Google Map

 

Page 17. " Lladdwn rai o'r cŵn bach ac irwn ei hwyneb hithau, Rhiannon, a'i dwylo â'r gwaed, a thaflwn yr esgyrn ger ei bron a thaerwn iddi ddifetha'r mab ei hunan. "
Llun o Rhiannon yn marchogaeth yn Arberth o 'The Mabinogion' (1877) - cyfieithiad Charlotte Guest
Public DomainLlun o Rhiannon yn marchogaeth yn Arberth o 'The Mabinogion' (1877) - cyfieithiad Charlotte Guest - Credit: anhysbys

Y mae stori Rhiannon yn enghraifft o ‘Thema’r Wraig dan Gabl’ (yr hyn a elwir yn Saesneg the Calumniated Wife Theme  neu’r Constance Theme, (ar ôl cymeriad yn y Lawyer’s Tale gan Chaucer). Y mae’r thema hon i’w gweld yn llên werin sawl gwlad, a’i chraidd yw erlid a gwrthod gwraig sy’n ddiarth i gymuned y mae’n dod yn rhan ohoni drwy briodas. Yn aml iawn, cyhuddir y wraig o ladd a bwyta ei phlant ei hun, a dyna a awgrymir yn achos Rhiannon. Ceir enghraifft arall o thema’r ‘wraig dan gabl’ yn Branwen ferch Llŷr pan gosbir Branwen yn sgil priodi Matholwch.

Mewn llyfr o'r enw The Mabinogi: A Book of Essays (gol. Charles William Sullivan) ceir gweld erthygl gan Juliette Wood o dan y teitl, 'The Calumniated  Wife in Medieval Welsh Literature'.

Ceir gweld yr erthygl ar ffurf e-lyfr yma.

 

Page 18. " Ac yn yr amser hwnnw yr oedd Teyrnon Twrf Liant yn arglwydd ar Went Is Coed "

Credir i Teyrnon (Tiernon yn y traddodiad Gwyddelig) gynrychioli’r duw Celtaidd Tigernos, ‘y brenin mawr’ (‘the great king’).

Y mae Gwent Is Coed yn un o gantrefi canoloesol Cymru. Ceir ei weld yng nghornel dde-ddwyrain y map yn bookmark  tud.1.

 

Page 18. " a phob nos Calan Mai fe fwriai ebol ac ni byddai neb yn gwybod un gair am ei hebol "
'Beltane Sunrise'
Creative Commons Attribution'Beltane Sunrise' - Credyd: Tomorrow Never Knows

Y mae’r cyntaf o Fai yn arwyddocaol yn niwylliant sawl gwlad Ewropeaidd. Rhennid y flwyddyn Geltaidd yn ddwy ran: y naill yn cychwyn ar y cyntaf o Fai, a’r llall ar y cyntaf o Dachwedd. Yn y traddodiad Cymraeg fe’u gelwir yn Galan Mai a Chalan Gaeaf, ac yn y traddodiad Gwyddelig yn Beltane (weithiau, Beltaine, Beltine neu Beltene) a Samhain. Ar y cyfnodau hyn o newid, credid i’r ffin rhwng y byd cyffredin a’r Byd Arall gael ei gwanhau.

Ceir awgrym o arwyddocâd posib Calan Mai yn stori Lludd a Llefelys lle y dywedir y gallai clywed sgrechiadau’r dreigiau’n ymladd arwain at anffrwythlondeb. Cyfeirir hefyd at Galan Mai yn Culhwch ac Olwen lle'r adduneda dau ddyn ymladd dros ferch ‘bob dydd Calan Mai fyth hyd Ddydd Barn*'.

 

* Cyfeiriad at Ddydd y Farn y traddodiad Cristnogol a geir yma. Yn y cyfieithiad a wnaed o Culhwch ac Olwen gan Gwyn Jones a Thomas Jones (Llundain: Golden Cockrel Press, 1948) fe'i cyfieithir fel doomsday.

 

Page 23. " Yr oedd Bendigeidfran fab Llŷr yn frenin coronog ar yr ynys hon "

Y mae wedi cael ei awgrymu bod y ffordd y mae Bendeigeidfran yn cael ei bortreadau yn enghraifft o ewhemeriaeth (euhemerism), sef dyrchafu ffigyrau hanesyddol sydd wedi ymddwyn mewn ffordd arwrol yn dduwiau neu dduwiesau. Y mae hyn wrth gwrs yn hollol groes i’r cysyniad o israddio duwiau/duwiesau i fod yn arwyr/arwresau y cyfeiriwyd ato yn bookmark  tud.10.

Mae Bran (Bran mac Feabhail/mac Febail ) yn enw ar un o arwyr chwedloniaeth Iwerddon, ac mae’r cwestiwn o ba gysylltiad sydd rhwng Bran a Bendigeidfran wedi bod yn un dadleuol.

 

Cerflun o Fendigeidfran a Gwern yn Harlech (Ivor Roberts-Jones, 1984)
GNU Free Documentation LicenseCerflun o Fendigeidfran a Gwern yn Harlech (Ivor Roberts-Jones, 1984) - Credyd: Oosoom
Page 23. " Ac un prynhawn yr oedd yn Harlech yn Ardudwy yn un o'i lysoedd. "

Roedd Ardudwy yn enw ar un o gymydau canoloesol Cymru. Gellir ei gweld ar arfordir gogleddol Bae Ceredigion ar y map yn y bookmark ar dudalen 1. Rhennid yn ddwy ardal, sef Uwch Artro ac Is Artro.

Y mae Harlech yng Ngwynedd yn dref arfordirol sydd wedi chwarae rhan flaenllaw yn hanes Cymru. Y mae’n safle castell mawreddog a adeiladwyd gan Edward y Cyntaf yn y drydedd ganrif ar ddeg yn dilyn y goresgyniad. Hefyd, cafodd ei feddiannu gan Owain Glyndŵr pan oedd yn arwain gwrthryfel y Cymry yn erbyn y Saeson.

 

Castell Harlech
Public DomainCastell Harlech - Credyd: Oosoom

 

Google Map

 

Page 24. " A honno oedd un o Dair Prif Riant yr ynys hon "

Ceir sawl cyfeiriad yn chwedlau’r Mabinogion at grwpiau o dri (triawdau), yn ogystal â’r defnydd o’r ddyfais ailadrodd deirgwaith er mwyn creu argraff lenyddol (neu argraff ar lafar pe bai’r chwedlau yn cael eu hadrodd). Yn Breuddwyd Macsen, er enghraifft, ceir tri disgrifiad o’r un daith.  Mae’n debyg fod arwyddocâd penodol yn perthyn i  driawdau yn y traddodiad llenyddol Cymraeg cynnar, fel yr awgrymir gan y gyfres o lawysgrifau canoloesol a adnabyddir fel Trioedd Ynys Prydain. Mae llawer o’r triawdau y cyfeirir atynt yn Y Mabinogion i’w gweld yn y Trioedd. Yn ogystal â’r Tair Prif Riant, enghreifftiau eraill yw y Tri Arglwydd Gwylaidd a’r Tri Chrydd  Aur (Manawydan fab Llŷr); y Tair Osgordd Anffyddlon  (Math fab Mathonwy), a’r tair rhagynys (Breuddwyd Macsen).

 

 

Page 24. " A gwnaed oed i gysgu gyda hi yn Aberffraw "

Roedd Aberffraw ar Ynys Môn yn un o gantrefi*  canoloesol Cymru, ac y mae’n dal mewn bodolaeth fel pentref. Rhwng 860 a 1170 roedd yn lleoliad prif lys Brenhinoedd a Thywysogion Gwynedd.

*gweler bookmark tud. 1.

 

Bae Aberffraw
Creative Commons Attribution Share AlikeBae Aberffraw - Credyd: Gordon Hatton

 

Google Map