Baedd gwyllt (Sus scrofa) - credyd: Brian Gratwicke
Enghraifft arall o rithio person yn anifail, y shapeshifting (y cyfeirir ato yn bookmark tud. 2) a geir yma. Awgrymir mai mab rheolwr pwysig sydd wedi'i droi yn faedd gwyllt yw'r Twrch Trwyth .
Dea Matrona - Credyd: PHGCOM
Dea Matrona - Credyd: PHGCOM
Cysylltir Mabon â'r duw Celtaidd Maponos, a chysylltir ei fam â'r dduwies Geltaidd Dea Matrona. Duw yr ifainc sy'n cyfateb i'r duw Rhufeinig Apolon oedd Maponas, a dywedir iddo gael ei addoli yng Ngâl a Phrydain. Duwies Afon Marne yng Ngâl oedd Dea Matrona, (‘Y Famdduwies gysegredig'/'divine Mother Goddess’). Roedd y Famdduwiesau cysegredig yn cael eu haddoli hefyd fel triawd, y Deae Matronae.
Fel y nodir yn y bookmark ar gyfer tud.10, y mae Dea Matrona wedi'i chysylltu â Rhiannon sy'n ymddangos yn Pwyll Pendefig Dyfed.
Y mae cyfeirio at Fabon mab Modron hefyd yn Breuddwyd Rhonabwy lle y'i disgrifir fel un o gynghorwyr Arthur.
Deae Matronae - Credyd: Urban
Mwyalchen - Credyd: jipe_dk
Gofynnir cyngor pump o anifeiliaid ac adar hynafol: gan symud o'r ieuengaf i'r hynaf, y rhain yw: Mwyalch Cilgwri; Carw Rhedynfre; Tylluan Cwm Cawlwyd; Eryr Gwernabwy ac Eog Llyn Llyw (weithiau, ysgrifennir yr enw hwn yn Llyn Lliw).
Mewn Cymraeg cyfoes, Cilgwri yw'r enw a roddir ar y Wirral Peninsula yn ngogledd-orllewin Lloegr rhwng aber Afon Ddyfrdwy ac aber Afon Merswy (Mersey).
Rhedynfre yw'r hen enw Cymraeg ar bentref Farndon yn Sir Gaer.
Nid yw lleoliad Cwm Cawlwyd yn hollol glir: Yn ei chyfieithiad o'r Mabinogion y mae'r Fonesig Charlotte Guest yn nodi 'there is a place of this name in Caernarvonshire, and another in Carmarthenshire’, ond y mae wedi cael ei grybwyll hefyd mai ardal Strathclyde yn yr Alban yw ei leoliad.
Y mae lleoliadau Gwernabwy a Llyn Llyw hefyd yn aneglur; un awgrym yw bod gan Wernabwy gysylltiadau â Bodernabwy yn Llŷn yng ngogledd-orllewin Cymru, a bod Llyn Llyw yn rhywle ym Môr Hafren.
Yn y stori ‘The Ancients of the World’ sydd i'w chael yng nghasgliad William Jenkyn Thomas o straeon tylwyth teg, y mae cyfeirio at anifail hynafol arall, sef the Toad of Cors Fochno. Cyfeirir ato hefyd yng ngherdd R.S. Thomas ‘The Ancients of the World’:
The ousel singing in the woods of Cilgwri
Tirelessly as a stream over the mossed stones
Is not as old as the toad of Cors Fochno
Who feels the cold skin sagging round his bones.
Castell Penfro ar lannau Afon Cleddau - Credyd: Chris Downer
Y mae dwy afon yn Sir Benfro o'r enw Cleddau, sef Cleddau Ddwyreiniol a Chleddau Orllewinol. Y mae'r ddwy afon yn ymuno yn Picton Point i ffurfio Afon Cleddau sy'n cyrraedd y môr yn Aberdaugleddau (Milford Haven).
Tua chyfeiriad Pumlumon o gronfa dŵr Nant-y-moch - Credyd: Nigel Brown
Cadwyn o fynyddoedd yng ngogledd Ceredigion yw Pumlumon a elwir yn Saesneg yn Plynlimon. Fel y mae'r enw yn awgrymu y mae pum copa ym Mhumlumon, a'r uchaf o'r rhain yw Pen Pumlumon Fawr. Enw un o'r capaon eraill yw Y Garn, ond nid yw'r enw penodol Garn Gwylathr wedi'i gofnodi.

