Page 127. " Yr oedd Madog fab Meredudd yn llywodraethu Powys yn llwyr o ffin i ffin "
Map of medieval Welsh kingdoms (c.1093)
Public DomainMap o fân deyrnasoedd Cymru (c.1093) - Credyd: Rhion

Roedd Madog ap Maredudd  yn llywodraethwr ar deyrnas Powys rhwng 1132 a'i farwolaeth yn 1160. Y fo oedd yr olaf o'r llywodraethwyr Cymreig i reoli Powys yn ei chyfanrwydd. Roedd sefyllfa ddaearyddol Powys yn golygu ei bod yn agored i ymosodiadau gan deyrnas rymus Gwynedd a chan luoedd Lloegr. Mae'n debyg mai dyna paham y gwnaeth Madog ymdrech i aros ar delerau da gyda Brenin Lloegr a bonedd Lloegr.

Page 128. " A meddyliodd Rhonabwy, gan na allai na chysgu na gorffwys, ei bod yn llai poenus iddo fynd i'r esgynlawr i gysgu ar groen melyn yr anner "
Young man sleeping
Public DomainDyn ifanc yn cysgu - Credyd: Antonio Cortina Farinós

Buwch ifanc yw anner (heifer yn Saesneg).

Y mae sawl darn o lenyddiaeth sy'n sôn am bobl yn cael breuddwydion neu weledigaethau wrth gysgu ar groen anifail. Er enghraifft, yn Llyfr 7 yr Aeneid gan Fyrsil (Virgil) y mae cyfeirio at weledigaethau a ysgogwyd gan gysgu ar groen defaid, ac yn Historia Regum Britanniae Sieffre o Fynwy y mae Brutus yn clywed y dduwies Diana yn siarad ag ef wrth iddo gysgu ar groen ewig (carw benywaidd/carw ifanc). Yn y traddodiad Gwyddelig hefyd ceir cyfeirio at freuddwydion a gweledigaethau yn cael eu hysgogi drwy gysgu ar groen ych, ac at y tarb feis (‘cysgu tarw’) lle y dywedir i fwyta cig tarw arwain at gael gweledigaethau wrth gysgu.

Page 140. " 'Rhun fab Maelgwn Gwynedd, gŵr y mae iddo gymaint o awdurdod fel y daw pawb i ymgynghori ag ef' "

Roedd Maelgwn Gwynedd a fu farw yn 547 yn llywodraethwr ar deyrnas Gwynedd yn ystod ail chwarter y chweched ganrif. Dywedir i'w lys fod yn Neganwy yng Ngwynedd, wrth aber Afon Conwy.

Bu i'w fab Rhun Hir ap Maelgwn lywodraethau ar Wynedd rhwng 547 a 586. Credid ar un adeg bod marwnad iddo o'r enw Marwnad Rhun wedi'i ei hysgrifennu gan Taliesin, y bardd Cymraeg o'r chweched ganrif, ond ni chredir bellach fod hyn yn wir.

 

Ruins of Deganwy Castle
Creative Commons Attribution Share AlikeAdfeilion Castell Deganwy - Credyd: Jonathan Wilkins

Google Map

 

 

Page 140. " Ac ar hynny, wele, feirdd yn dod i ddatgan cerdd i Arthur. Ac nid oedd dyn a adwaenai'r gerdd honno ond Cadriaith ei hun "

Cerddi Aneirin a Thaliesin yn hanu o'r chweched ganrif yw'r cerddi cynharaf sydd ar gof a chadw yn y Gymraeg*. Fel arfer, rhennir beirdd canoloesol Cymraeg yn dair carfan. Yn y garfan gyntaf, y mae'r Cynfeirdd, beirdd a oedd wrth eu gwaith rhwng y chweched ganrif a'r unfed ganrif ar ddeg. Yn yr ail garfan, y mae Beirdd y Tywysogion a fu wrthi'n cyfansoddi rhwng diwedd yr unfed ganrif ar ddeg a goresgyniad Cymru gan Edward I yn 1282. Yn y drydedd garfan, ceir Beirdd yr Uchelwyr a oedd wrth eu gwaith o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg a dirywiad y traddodiad barddol Cymraeg yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Credir i farddoniaeth gynnar Gymraeg gael ei pherfformio i gyfeiliant  telyn, crwth, neu guro rhythmig ffon.

(* Noder y siaredid fersiwn o'r Gymraeg mewn rhannau o ogledd Lloegr a de'r Alban yn ystod cyfnod Aneirin a Thaliesin)

Y mae'r sylw uchod am y beirdd a ddaeth i ddatgan eu gwaith i Arthur yn un dychanol. Credir i Freuddwyd Rhonabwy gael ei hysgrifennu yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg. Y mae'n debyg, felly, mai Beirdd y Tywysogion yw'r cocyn hitio yn y fan hon. Yr awgrym yw bod eu gwaith yn rhy astrus a'u bod nhw wedi colli cysylltiad â'u cynulleidfaoedd.

Cliciwch yma i ddarllen am waith arbrofol sy'n cael ei wneud ar y cysylltiad rhwng barddoniaeth a cherddoriaeth yn y Gymru ganoloesol.

 

 

Page 141. " A gelwir y stori hon 'Breuddwyd Rhonabwy'. (A dyma'r achos na ŵyr neb y freuddwyd, na bardd na chyfarwydd, heb lyfr oherwydd cynifer y lliwiau a oedd ar y meirch a'r amryfal liwiau prin ar yr arfau a'u harneisiau ac ar y mentyll gwerthfawr a'r cerrig rhiniol.) "
Facsimile of the 'Red Book of Hergest'
Public DomainFfacsimili o 'Lyfr Coch Hergest' - Credyd: Copïwr: Hywel Fychan fab Hywel Goch o Fuellt

Coloffon (colophon), sef datganiad ar ddiwedd llyfr neu lawysgrif sy'n rhoi gwybodaeth am y testun, megis ei gomisiynydd, ei deitl, neu ei nod, yw'r enw a roddir ar linellau cloi Breuddwyd Rhonabwy.

Cydnabyddir yn gyffredinol fod pob stori yn Y Mabinogion (ac eithrio un) yn perthyn i draddodiad llafar a sicrhaodd i'r straeon fynd o genhedlaeth o genhedlaeth drwy weithgaredd y cyfarwydd (adroddwr straeon). Yr eithriad yw Breuddwyd Rhonabwy, gan y credir i honno fod yn waith llenyddol gwreiddiol yn hytrach na thrawsgrifiad o stori a adroddid ar lafar.

 Y mae'r coloffon yn awgrymu bod y dull llenyddol yn rhagori ar y dull llafar. Mae'n awgrymu hefyd mai pwrpas y disgrifiadau cymhleth sydd yn y stori yw trechu'r cyfarwydd a dangos felly wendidau'r cyfrwng llafar. Fodd bynnag, fel y cytunai unrhyw un sydd wedi darllen Culhwch ac Olwen (un o'r chwedlau hynaf yn Y Mabinogion), nid oedd cymhlethdod yn rhywbeth a oedd yn debyg o fod yn faen tramgwydd i'r cyfarwydd!

 

Page 142. " Chwedl Iarlles y Ffynnon "
Yvain fighting Gawain
Public DomainYvain yn ymladd â Gawain - Credyd: anhysbys

Y mae cysylltiadau wedi'u nodi rhwng Chwedl Iarlles y Ffynnon yn Y Mabinogion a cherdd Chrétien de Troyes Yvain, le Chevalier au Lion ('Yvain, y marchog a chanddo lew') a ysgrifennwyd yn y ddeuddegfed ganrif. Ond, fel y nodir yn achos y ddwy stori Hanes Peredur fab Efrog a Perceval, le conte du Graal (gweler bookmark tud.168), nid yw natur y berthynas rhwng y ddwy yn hollol glir.

 

Page 150. " trwy ei helm a'r capan dur a'r gorchudd pen o Fwrgwyn "
Detail from 14th century fresco
Public DomainManylyn o ffresgo o'r bedwaredd ganrif ar ddeg - Credyd: Ambrogio Lorenzetti

Bwrgwyn yw'r enw Cymraeg ar Burgundy

Yn y cyfnod canoloesol hwyr, roedd Bwrgwyn yn un o gynhyrchwyr gwlân mwyaf Ewrop. Roedd gan Ddugiaeth Bwrgwyn (Duchy of Burgundy) reolaeth ar y fasnach gynhyrchu brethyn yn Fflandrys (Flanders), ac ystyrid llysoedd y Ddugiaeth yn Bruges, Lille a Brussels yn arweinwyr y byd ffasiwn aristocrataidd.

 

 

Page 150. " gollyngwyd y porthcwlis ar Owain "
Portcullis
Creative Commons Attribution Share AlikePorthcwlis - Credyd: Tschai-Pi

Adeiladwaith amddiffynnol a osodid wrth fynedfeydd cestyll canoloesol yw porthcwlis.

Rhwyllwaith (lattice/grille) wedi'i wneud o bren neu haearn y gellid ei ollwng ar fyr rybudd mewn argyfwng yw.

Roedd gan rai cestyll borthcwlis mewnol a phorthcwlis allanol, sef porthcwlis dwbl. Drwy ollwng y ddau ar y cyd, byddai'n bosib dal ymwelwyr nad oedd croeso iddynt rhwng y ddau. Isod ceir gweld y porthcwlis dwbl yng Nghastell Warwig (Warwick) yn Lloegr.