Allorlun yn dangos y Saith Sacrament: Gwelir yma Ordeinio, Priodas a'r Eneiniad Olaf. - Credyd: Rogier van der Weyden
Ceir yma gyfeirio at un o sacramentau'r Eglwys Gatholig a elwir yn Eneinio'r Cleifion ('Anointing of the Sick'). Heddiw, ei hystyr yw rhoi olew sanctaidd ar dalcen rhywun sydd naill ai yn ddifrifol wael neu yn marw. Ers talwm, fodd bynnag, rhoddid yr Eneiniad Olaf (Extreme Unction) pan oedd rhywun ar fin marw yn unig, a rhoddid yr olew ar sawl rhan o'r corff.
Yn Saesneg defnyddir y term Last Rites i ddisgrifio rhoi'r Eneiniad Olaf yn ogystal â'r sacramentau a enwir Penyd (Penance) a'r Cymun Sanctaidd (Holy Communion). Yr enw ar y Cymun Sanctaidd olaf yw Viaticum, sy'n golygu 'darpariaeth ar gyfer taith'.
'Départements et régions' yn Ffrainc - Credyd: historicair
Yn ei chyfieithiad o'r Mabinogion (2007), y mae'r Athro Sioned Davies yn cyfieithu hyn fel 'And a fine black gascon horse was brought'. Y mae Gascony yn un o ddugiaethau hynafol de-orllewin Ffrainc. Nid yw'n hollol glir lle'r oedd ei ffiniau, ond cydnabyddir yn gyffredinol mai'r ardal i'r de-ddwyrain o Bordeuax yw, â'r département o'r enw Gers (yn ardal y Midi-Pyrénées) yn ganolbwynt iddi.
Cliciwch yma i ddarllen mwy am geffylau yn ystod yr Oesoedd Canol.
Perceval, fel y'i portreadir mewn llawysgrif o'r bymthegfed ganrif - Credyd: wedi'i lwytho i fyny gan Archibald Tuttle
Y mae cyffelybiaethau rhwng y chwedl hon a'r gerdd ‘Perceval, le Conte du Graal' ('Persifal a stori'r Greal') gan Chrétien de Troyes y trwbadŵr o'r ddeuddegfed ganrif.
Yng nghyd-destun Y Mabinogion, felly, y mae Hanes Peredur fab Efrog yn cael ei disgrifio yn un o'r 'Tair Rhamant' ('Three Romances') ynghyd â Chwedl Iarlles y Ffynnon a Geraint fab Erbin.
Fodd bynnag, nid yw hanes Peredur a hanes Perceval yr un ffunud â'i gilydd o bell ffordd. Nid yw'n glir ai dylanwadu y naill ar y llall a fu, neu i'r ddwy hanu'n annibynnol o ffynonellau tebyg. Mae cryn anghytuno wedi bod ynghylch pa un a ddaeth gyntaf, a rhoddir yr enw y Mabinogionfrage (‘Cwestiwn y Mabinogion’) i'r ddadl yn ei chyfanrwydd. Beth bynnag fo'r gwir, yn Peredur fab Efrog, ceir gweld dylanwadau Eingl-Normanaidd sy'n wahanol iawn i'r dylanwadau Celtaidd a Brythonaidd-Rufeinig sydd i'w gweld yn llawer iawn o chwedlau eraill Y Mabinogion.
'Yr Hen Ogledd' - Credyd: Notuncurious
Yr enw Cymraeg ar York yw Efrog.
Ystyr y Gogledd yn y fan hon yw'r hyn a elwir weithiau ‘Yr Hen Ogledd’ ('The Old North'). Hwn yw'r enw a roddir i'r rhannau o ogledd Lloegr a de'r Alban lle siaredid fersiwn o'r iaith Frythoneg yn y cyfnod canoloesol cynnar rhwng tua 500 a 800. Y Frythoneg (Brythonic) oedd iaith Celtiaid Prydain a ddatblygodd yn bedair iaith wahanol: Cymraeg, Llydaweg, Cernyweg a Chymbrieg (Cumbric).
Y Brenin Arthur fel y'i portreadir mewn tapestri o'r bedwaredd ganrif ar ddeg.Fel sy'n dod i'r amlwg yn nes ymlaen yn y stori, lleoliad 'llys Arthur' yw Caerllion ar Wysg (Caerleon on Usk), sydd ar Afon Wysg yn ne-ddwyrain Cymru nid nepell o Gasnewydd. Yn y stori fwy hynafol Culhwch ac Olwen, dywedir mai lleoliad llys y Brenin Arthur yw Celli Wig yng Nghernyw. Ceir gweld felly ddylanwad Historia Regum Britanniae (Brut y Brenhinedd) a ysgrifennwyd gan Sieffre o Fynwy, ac sy'n enwi Caerllion fel llys Arthur.
Y mae sawl lle wedi'i grybwyll ar gyfer lleoliad Celli Wig yng Nghernyw, gan gynnwys Penwith (Calliwith ger Bodmin), a'r gaer yn Castle Killibury.
- 'Lancelot and Guinevere' Credyd: Herbert James Draper
Gwraig y Brenin Arthur oedd Gwenhwyfar a oedd (yn ôl y chwedlau Arthuraidd) yn anffyddlon i'w gŵr gyda'r marchog Lawnslot (Sir Lancelot). Ystyr yr enw Gwenhwyfar yw 'drychiolaeth deg' sy'n cyfateb i'r enw Findabair, cymeriad yn y stori Wyddeleg Táin Bó Cúailnge (yn Saesneg, ‘The Cattle Raid of Cooley').
Yn y chwedlau Arthuraidd Ffrengig, fe'i hadnabyddir fel Guenièvre, ac yn Saesneg fel Guinevere. Dywedir i'r enw Jennifer hanu o Gwynnever, fersiwn Gernyweg ar yr enw.
Marchogion y Ford GronY mae Cai yn ymddangos ym mhedair chwedl arall Y Mabinogion, sef Iarlles y Ffynnon, Geraint fab Erbin, Culhwch ac Olwen a Breuddwyd Rhonabwy. Fe gyfeirir ato hefyd yn Trioedd Ynys Prydein, ac yn y gerdd ‘Pa gur’ sydd i'w gweld yn Llyfr Du Caerfyrddin.
Yn y chwedlau Arthuraidd yn gyffredinol, mae yna sawl cyfeiriad ato, er iddo fod yn ffigwr ymylol. Ymddengys yn y chwedlau Saesneg fel Sir Kay, un o Farchogion y Ford Gron, ac fe'i cysylltir yn aml â Bedivere (Bedwyr). Fel yn Y Mabinogion, fe'i portreadir yn aml yn gymeriad byrbwyll a checrus.

