Page 228. " yn y dref a elwir yn awr Caerdydd "

Heddiw, y mae Caerdydd yn brifddinas Cymru. Yn wreiddiol, caer Rufeinig oedd Caerdydd (‘y gaer ar Afon Taf’) ond ni wyddys rhyw lawer am hanes yr ardal rhwng gadael y Rhufeiniaid a'r Goresgyniad Normanaidd. Ar ôl y goresgyniad, daeth Caerdydd yn dref fach Seisnigaidd, a chanddi, erbyn diwedd y drydedd ganrif ar ddeg, ryw ddwy fil o boblogaeth. Un o adeiladau pwysicaf y dref yw ei chastell canoloesol a drawsnewidiwyd yn blas adfywio-gothig (gothic-revival) yn ystod oes Fictoria.

Yn 'Tair Rhamant' Y Mabinogion (yn wahanol i sawl un o'r chwedlau eraill) y mae'r cyfeiriadau daearyddol ar y cyfan yn aneglur a di-enw, sy'n gwneud y cyfeirio penodol at Gaerdydd braidd yn drawiadol. 

 

Detail from the banqueting hall of Cardiff Castle
GNU Free Documentation LicenseManylyn ar wal neuadd wledda Castell Caerdydd - Credyd: Wolfgang Sauber

 

Google Map

 

Page 229. " Ac fe barodd Arthur alw Morgan Tud ato: y pennaf o'r meddygon oedd hwnnw "
Painting of Morgan le Fay (1864)
Public DomainLlun o Morgan le Fay (1864) - Credyd: Anthony Frederick Augustus Sandys

Y mae'r enw Morgan Tud wedi bod yn un dadleuol ymhlith ysgolheigion Arthuraidd. Yn 'Erec et Énide' gan Chrétien de Troyes, y cymeriad sy'n cyfateb i Forgan Tud yw Morgue neu Morgain la Fée (a elwir yn Saesneg yn Morgan le Fay). Fodd bynnag, y mae wedi'i awgrymu bod yna ffyrdd eraill o ddehongli'r enw Morgan Tud, ac wrth gwrs, pwysig yw nodi mai gŵr yw'r cymeriad yn Y Mabinogion.

Er mwyn deall manylion y dadleuon ar y mater hwn, cliciwch yma.

 

Door panel depicting Morgan le Fay by Sir George Frampton (1860-1928)
Creative Commons Attribution Share AlikePanel drws yn portreadu Morgan le Fay gan Syr George Frampton (1860-1928) - Credyd: Gordon Lawson

 

Page 233. " A chychwynasant a theithio tua Hafren "

Hafren yw'r enw Cymraeg ar y River Severn, yr afon hiraf ym Mhrydain Fawr. Mae'n codi ym Mhumlumon (gweler y map) ac yn ymarllwys i Fôr Hafren (Bristol Channel). Mae dinasoedd Caerwrangon (Worcester) a Chaerloyw (Gloucester), a thref Amwythig (Shrewsbury) i gyd ar lannau Hafren.

 

River Severn at Cilgwrgan Bridge
Creative Commons Attribution Share AlikeAfon Hafren wrth bont Cilgwrgan- Credyd: kevin skidmore

Google Map

 

 

Page 247. " 'Gwiffred Petit y geilw'r Ffrancod ef, a'r Brenin Bychan y geilw'r Cymry ef.' "
Guivret le Petit's coat of arms
GNU Free Documentation LicenseArfbais Guivret le Petit - Credyd: Chatsam

Ffurf ar Guivret le Petit, y corrach sy'n ymddangos yn ‘Erec et Énide’ gan Chrétien de Troyes, yw Gwiffred Petit.