Page 27. " a hynodrwydd y pair yw, y deiliaid iti a ladder heddiw, ei fwrw yn y pair ac erbyn yfory fe fydd cystal ag y bu ar ei orau ond na bydd ganddo leferydd "

Ymddengys i’r pair fod o arwyddocâd arbennig yn yr hen draddodiad Celtaidd. Un enghraifft bwysig sydd wedi goroesi yw pair Gundestrup y daethpwyd o hyd iddo mewn mawnog yn Nenmarc yn 1891. Pair arian wedi’i addurno’n gelfydd iawn yw’r pair hwn, a chredir iddo ddeillio o Oes yr Haearn. Ymhlith y ffigurau sydd wedi’u cerfio arno y mae un o ddyn corniog sydd o bosib yn cynrychioli    Cernunnos, y duw corniog Celtaidd. Yn fwy diddorol byth, y mae hefyd gerfiad o res o ddynion yn cael eu taflu i bair ac yn ailymddangos wedyn ar gefn ceffylau, sefyllfa sy’n hynod debyg i’r hyn a ddisgrifir yn chwedl Branwen ferch Llŷr.

Mae sôn am beiriau hefyd mewn llawysgrifau Cymraeg o’r Canol Oesoedd hwyr (er ei bod yn debyg fod y deunydd yn hanu o gyfnod llawer cynharach). Er enghraifft, ymhlith Tri Thlws ar Ddeg Ynys Prydain, ceir sôn am bair y cawr Dyrnwch, ac y mae pair Ceridwen yn ganolog i chwedl Taliesin. Yn y traddodiad Gwyddelig, y mae pair Dagda yn un o bedwar trysor y bobl chwedlonol a elwir yn Tuatha Dé Danann.

Y pair fel y'i portreadir ar Bair Gundestrup
GNU Free Documentation LicenseY pair fel y'i portreadir ar Bair Gundestrup - Credyd: Malene Thyssen, http://commons.wikimedia.org/wiki/User:Malene

 

Y ffigur corniog ar bair Gundestrup
Creative Commons Attribution Share AlikeY ffigur corniog ar bair Gundestrup - Credyd: Bloodofox

 

 

Page 27. " Ac am hynny y galwyd y cwmwd o hynny allan, Tâl Ebolion "

Ceir yma un o nifer o esboniadau onomastig (eglurhad ar darddiad enwau) sydd i’w cael yn Y Mabinogion. Y lle dan sylw yw Talybolion, cwmwd* yng ngogledd-orllewin Ynys Môn. Fel y nodir gan Gwyn Jones a Thomas Jones yn eu cyfieithiad o’r Mabinogion i’r Saesneg (1948) , cyfieithiad dilys o Talybolion fyddai ‘end of the chasms’ neu ‘end of the ridges’. Hollol ffug, felly, yw'r eglurhad a gynigir yn y testun.

* gweler bookmark tud.1.

Lleoliad cwmwd Talybolion ym Môn:

Google Map

 

Page 27. " ac fe ddiangasant o'r tŷ haearn yn Iwerddon pan y'i gwnaed yn wyn o'u cwmpas "

Ceir cyfeirio at roi pobl mewn ‘tŷ haearn’ a cheisio eu dinistrio drwy wresogi’r tŷ yn y ddwy stori Wyddeleg, Mesca Ulad (‘Meddwi Dynion Wlster’) a Orgain Denna Ríg (‘Dinistr Dind Ríg'). Y mae’r ddwy wedi’u cadw yn Llyfr Leinster.  

 

Page 30. " a'r cychod rhwyfo a'r coryglau "
Llun o gwrwgl a dynnwyd ar gyfer llyfr hanes (1846)
Public DomainLlun o gwrwgl a dynnwyd ar gyfer llyfr hanes (1846) - Credyd: George L. Craik a Charles MacFarlane

Cychod pysgota traddodiadol yw cyryglau wedi’u gwneud o wiail wedi’u gorchuddio gan ddeunydd diddos megis croen anifail. Fe’u cysylltir yn bennaf â Chymru, ond fe'u defnyddid hefyd mewn rhannau eraill o Brydain ac yn Iwerddon.

Cwrwgl Afon Teifi
Public DomainCwrwgl Afon Teifi - Credyd: Linguistic Demographer

Yn draddodiadol, un o’u nodweddion pwysicaf yw ei bod yn bosib i’r pysgotwr gario ei gwrwgl ar ei gefn. Maen’ nhw’n dal i gael eu defnyddio'n achlysurol hyd heddiw ar afonydd Teifi, Tywi a Thâf.

 

Page 30. " Ac yn ystod hynny o amser, meithrin aderyn drudwen a wnaeth hithau ar ymyl ei phadell dylino gyda hi "

Gwrthrych pren ar gyfer gwneud bara yw padell dylino.

 

 

Llun o Franwen wrth ei phadell dylino
Public DomainLlun o Franwen wrth ei phadell dylino - Credyd: Anatiomaros; Darlunydd: W. Williams

 

Page 30. " Dyma lle y cafodd Fendigeidfran, yng Nghaer Saint yn Arfon "
Castell Caernarfon gyda'r nos
Creative Commons AttributionCastell Caernarfon gyda'r nos - Credyd: Richard Outram

Un o gantrefi canoloesol Cymru (gweler bookmark tud.1) oedd Arfon, a leolid yng ngogledd-orllewin Cymru gyferbyn ag Ynys Môn. Defynyddir yr enw heddiw ar gyfer un o ardaloedd gweinyddol Gwynedd.

Hen enw ar Gaernarfon yng Ngwynedd yw Caer Saint. Mae Saint yn ffurf ar y gair Seiont, sef yr afon sy’n cyrraedd Y Fenai yng Nghaernarfon. Pan oedd y Rhufeiniaid ym Mhrydain roedd caer Rufeinig o’r enw Segontium yng Nghaernarfon, ac yn y drydedd ganrif ar ddeg adeiladwyd castell yno gan Edward y Cyntaf. Yn y stori Breuddwyd Macsen enw arall ar Gaernarfon yw Aber Saint.

 

 

Page 30. " Yn Edeirnion y gadawyd y gwŷr hynny ac oherwydd hynny y galwyd y drefgordd Saith Marchog "

Un o gymydau canoloesol Cymru yw Edeirnion a leolid yn ardal Corwen yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Ceir ei weld ar y map yn bookmark tud.1 i’r gorllewin o Nanheudwy ac i’r ddwyrain o Benlynn Is Treweryn.

Pentref bach gwledig yn Sir Ddinbych, rhwng Corwen a Rhuthun, yw Bryn Saith Marchog.

 

Google Map

 

Page 32. " nid oes cyngor ond cilio dros Linon (afon a oedd yn Iwerddon) a gadael Llinon rhyngot ag ef "
Abhainn na Life
Creative Commons Attribution Share AlikeAbhainn na Life - Credyd: Jonathan Billinger

Yng nghyfieithiad Sioned Davies o’r Mabinogion (2007) cyfieithir Llinon fel Liffey (Gwyddeleg: Abhainn na Life), afon sy’n codi ym mynyddoedd Wicklow ac yn cyrraedd Môr Iwerydd ym Mae Dulyn. Mae’n llifo drwy ganol Dulyn, prifddinas Iwerddon.

Yng nghyfieithiad Gwyn Jones a Thomas Jones o’r Mabinogion, cyfieithir Llinon fel Shannon (Gwyddeleg: Abhain na Sionainne).

 

Page 32. " 'Nid oes ond hyn,' meddai yntau, 'sef a fo ben, bid bont. Fe fyddaf i'n bont,' meddai ef. Ac yna y dywedwyd y gair hwnnw gyntaf sy'n ddihareb fyth "

Dyma enghraifft arall o’r duedd onomastig yn y Pedair Cainc, sef y duedd i roi esboniadau ar darddiad geiriau neu enwau, neu yn yr achos hwn, ar darddiad dihareb.

Page 34. " Ac yna, canu englyn "
Cofgolofn Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd
GNU Free Documentation LicenseCofgolofn Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd - Credyd: Oosoom

Pennill tair neu bedair llinell yw’r englyn ac y mae yn un o fesurau caeth barddoniaeth Gymraeg. O’r pedwar mesur ar hugain, fel y’u rhestrir gan John Morris-Jones yn Cerdd Dafod (1925), y mae wyth yn englynion: sef: englyn penfyr; englyn milwr; englyn unodl union; englyn unodl crwca; englyn cyrch; englyn proest dalgron; englyn lleddfbroest; englyn proest cadwynog.

Yn ei nodiadau ar Bedeir Keinc y Mabinogi y mae Ifor Williams yn nodi bod yr englyn sy’n ymddangos dan y geiriau ‘Ac yna, canu englyn’, ‘braidd yn annosbarthus’ er ei fod yn agos at ffurf yr englyn byr crwca.

Heddiw, yr englyn mwyaf poblogaidd yw’r englyn unodl union. Enghreifftiau adnabyddus o englynion unodl union yw’r englyn gan Hedd Wyn sy’n ymddangos ar ei golofn goffa yn Nhrawsfynydd a’r englyn gan R. Williams Parry sydd i’w weld ar y gofgolofn i’r sawl a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf  ym Mhenygroes:

Ei aberth nid â heibio - ei wyneb                   O gofadail gofidiau tad a mam,

Annwyl nid â'n ango',                                    Tydi mwy drwy’r Oesau

Er i'r Almaen ystaenio                                   Ddysgi ffordd i ddwys goffáu

Ei dwrn dur yn ei waed o.                              Y rhwyg o golli’r hogiau.

 

 

Page 35. " Ac yna fe orchmynnodd Bendigeidfran dorri ei ben. 'A chymerwch chwi'r pen,' meddai ef, 'a chariwch ef i'r Gwynfryn yn Llundain a chleddwch ef a'i wyneb tua Ffrainc. "
Cigfrain yn Nhŵr Llundain
Creative Commons Attribution Share AlikeCigfrain yn Nhŵr Llundain - Credyd: A. Norppa
Y Tŵr Gwyn - rhan o Dŵr Llundain
GNU Free Documentation LicenseY Tŵr Gwyn - rhan o Dŵr Llundain - Credyd: Aiwok

Y Gwynfryn yw’r enw a roddir i’r domen gladdu sydd yn ôl y sôn o dan Dŵr Gwyn Tŵr Llundain, y gaer yng nghanol Llundain a adeiladwyd yn ystod yr unfed ganrif ar ddeg. Dywedir nid yn unig fod pen Bendigeidfran wedi’i gladdu yno, ond hefyd  i’r Brenin Arthur godi’r pen er mwyn herio statws Bendigeidfran fel gwarchodwr y deyrnas.

Mae ’na draddodiad hir o gadw cigfrain yn Nhŵr Llundain, rhwybeth a gysylltir â’r ffaith fod bran yn elfen o’r enw Bendigeidfran. Hyd yn oed heddiw cedwir o leiaf chwech o gigfrain yn barhaol yn y Tŵr, a honnir pe bai’r cigfrain byth yn gadael, byddai’r Tŵr Gwyn yn chwalu ac anffawd fawr yn dod i ran Prydain Fawr.

 

Page 35. " fe fyddwch yn ciniawa yn Harlech am saith mlynedd ac Adar Rhiannon yn canu ichwi "

Ceir cyfeirio at adar Rhiannon hefyd yn stori Culhwch ac Olwen, lle y'u disgrifir fel ‘y rhai a ddihuna’r marw ac a huna’r byw’.

Y mae adar Rhiannon wedi gafael yn nychymyg ambell gyfansoddwr: mae Adar Rhiannon yn deitl ar gerdd symffonig a gyfansoddwyd gan Joseph Holbrook yn 1926 (Op.87) ac ar gathl symffonig (tone-poem) ar gyfer cerddorfa a gyfansoddwyd gan James MacMillan yn 2001. Sonnir amdanynt hefyd yn y gân Abercuawg gan Fflur Dafydd sy’n agor gyda’r llinell, Deffro’n y nos yn clywed adar Rhiannon yn canu yn fy mhen.

Gwrandewch yma ar Birds of Rhiannon gan Joseph Holbrook ar Spotify.

 

Page 35. " Ac yng Ngwales ym Mhenfro y byddwch bedwar ugain mlynedd "

Ynys Grassholm, a leolir tua 8 milltir oddi ar arfordir de-orllewinol Sir Benfro, yw Gwales (weithiau Ynys Gwales).

 

Google Map

 

Yn ei lyfr Celtic Folklore: Welsh and Manx, y mae Syr John Rhŷs, Athro Celteg cyntaf Prifysgol Rhydychen, yn cyfeirio at y gred fod yna ynys o dan y dŵr ger Ynys Gwales a fydd o dro i’w gilydd yn dod i’r wyneb. Yn wir, honna un o ffynonellau Syr John iddo fod yn llygad-dyst i’r digwyddiad hwnnw!

Heddiw, y mae Ynys Gwales yn warchodfa i’r fulfran wen (gannet) o dan reolaeth yr RSPB.

 

Page 35. " A gellwch fod yno a'r pen gennych heb ei lygru hyd onid agoroch y drws tuag Aber Henfelen i gyfeiriad Cernyw "

Mae'n debyg mai Môr Hafren ('Bristol Channel') yw Aber Henfelen.

Mae Môr Hafren wedi'i leoli rhwng de Cymru a Gwlad yr Haf, Dyfnaint a Chernyw yn Lloegr. Y mae'n ymestyn o aber Afon Hafren at Fôr Iwerydd.

 

Google Map
Page 36. " Gwnaed bedd petryal iddi, a'i chladdu yno yng nglan Alaw "
River Alaw
Creative Commons Attribution Share AlikeAfon Alaw - Credyd: Eric Jones

Afon ar Ynys Môn yw Alaw sy'n cyrraedd y môr yn Aber Alaw nid nepell o Gaergybi. Yn 1813 daeth ffermwr (a oedd yn cymryd cerrig o garnedd ger pentref Elim ar lan Afon Alaw) o hyd i gist gladdu wedi'i gwneud o gerrig mewn ardal a adnabyddid erioed fel Ynys Bronwen. Yn y gist roedd wrn yn cynnwys llwch a darnau o esgyrn. Credid felly mai yma yr oedd y 'bedd petryal' y cyfeirir ato yn yr Ail Gainc, ac fe'i henwyd yn Fedd Branwen. Pan fu cloddio ymhellach yn ystod chwedegau'r ganrif ddiwethaf, daethpwyd o hyd i wrnau eraill yn cynnwys llwch ac esgyrn dynol, y credir iddynt hanu o Oes yr Efydd (c. 1800-1600 CC).

Mae rhai o'r wrnau ac eitemau eraill a oedd yn y bedd i'w gweld yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ym Mangor.

Cliciwch yma i weld llun o Fedd Branwen.

Cliciwch yma i weld lluniau o rai o'r eitemau y daethpwyd o hyd iddynt ym Medd Branwen.

Page 38. " Ac oherwydd y rhaniad hwnnw y gelwir eto bum talaith Iwerddon felly "
Provinces of Ireland
Public DomainTaleithiau Iwerddon - Credyd: Future Perfect at Sunrise

O tua'r ganrif gyntaf OC ymlaen, fe rannwyd Iwerddon yn daleithiau neu deyrnasoedd. Yr un peth yw'r gair Gwyddeleg am 'bumed ran' â'r gair am 'dalaith' (cóiced, neu cúige, mewn Gwyddeleg fodern). Y mae hyn yn adlewyrchu'r ffaith fod yna bum talaith wreiddiol, sef Connaught (Connacht); Leinster (Lagin); Meath (Mide); Munster (Muma); ac Ulster (Ulaid). Erbyn yr unfed ganrif ar ddeg, nid oedd Meath yn dal i fodoli, ac fe gollodd y pedair talaith arall eu hunaniaeth swyddogol ar ôl y goresgyniad gan Loegr pan rannwyd Iwerddon yn siroedd.

Fodd bynnag, y mae enwau'r hen daleithiau yn dal i gael eu defnyddio mewn rhai meysydd megis chwaraeon. Er enghraifft, enwau timau rygbi proffesiynol Iwerddon yw Connacht, Leinster, Munster ac Ulster.

Page 40. " 'ac fe af innau i Loegr i wneud fy ngwrogaeth i Gaswallon fab Beli' "

Yn yr Oesoedd Canol cynnar pan oedd nifer o fân deyrnasoedd ym Mhrydain, roedd y cysyniad o un llywodraethwr yn 'talu gwrogaeth' i un arall (sef cydnabod ei fod o statws uwch) yn un pwysig.

Roedd dau bwrpas i'r arferiad: yn gyntaf caniatâi i arweinydd llai grymus ddal gafael ar ei diriogaeth; yn ail byddai'n darbwyllo'r arweinydd mwy grymus na fyddai eraill yn ceisio ei danseilio. Yn y ddegfed ganrif bu i Hywel Dda, Brenin Deheubarth, dalu gwrogaeth  i Edward yr Hynaf o Loegr a'i fab Athelstan ill dau.

Credir mai fersiwn o'r enw Cassivellaunos yw Caswallon. Dywedir i Cassivellaunos frwydro yn erbyn Iŵl Caesar a'i fyddinoedd pan ymosodasant ar Brydain yn 54CC.

Y mae'r enw Beli wedi'i gysylltu â Bel neu Belenus, duw yr haul yn y traddodiad Celtaidd, a gafodd yntau ei gysylltu ag Apolon (Apollo) yn ystod y cyfnod Rhufeinig. Y mae'n bosib hefyd fod yna gysylltiad rhwng Beli  a Belgius, arweinydd o Gâl yn ystod y drydedd ganrif cyn Crist.

Page 43. " Ac yna dechreuodd brynu'r lledr Cordofa tecaf a gafodd yn y dref "
Statue of a cordwainer, Watling Street, London
Creative Commons Attribution Share AlikeCerflun o 'cordwainer', Stryd Watling, Llundain - Credyd: Oxyman

Lledr o ansawdd uchel iawn oedd lledr Cordofa (yr hyn a elwir yn Saesneg yn cordwain). Daeth yn wreiddiol o Cordoba sy'n ddinas a thalaith yn ne Sbaen lle y'i gwneid gan y Mwriaid (Moors). Fe'i defnyddid yn benodol ar gyfer gwneud esgidiau, a dyna paham y bathwyd y term cordwainer yn Saesneg i ddisgrifio gwneuthurwr esgidiau o safon. Yn draddodiadol, ystyrid cordwainers yn wahanol i cobblers a oedd yn gyfrifol am drwsio esgidiau yn unig.

Y mae'r geiriau cordovan a shell cordovan yn cael eu defnyddio o hyd i ddisgrifio lledr a wneir yn ôl dulliau traddodiadol y Mwriaid.

 

Page 50. " fe roddaf iti deirpunt, a gollwng ef ymaith "
King Offa of Mercia silver penny
Public DomainCeiniog arian y Brenin Offa o Fersia - Credyd: PHGCOM

Roedd y bunt yn uned ariannol o'r wythfed ganrif ymlaen, ar ôl i'r Brenin Offa o Fersia gyflwyno'r geiniog arian ('silver penny'). Y bunt oedd yr enw ar 240 o geiniogau arian a fyddai gyda'i gilydd yn pwyso un pwys o arian. Fodd bynnag, ni ddaeth papurau punt i fodolaeth ym Mhrydain tan yn llawer diweddarach: cynhyrchwyd y rhai cynharaf yn yr Alban yn 1696. Ni wnaed y pisiau punt cyntaf tan 1983.