Page 53. " Yr oedd Math fab Mathonwy yn arglwydd ar Wynedd "
Ruins of Dolbadarn Castle in Gwynedd
Creative Commons AttributionAdfeilion Castell Dolbadarn yng Ngwynedd - Credyd: Denis Egan

Roedd Gwynedd yn un o'r mân deyrnasoedd a ddaeth i fodolaeth ym Mhrydain yn ystod y cyfnod ôl-Rufeinig (gweler y map ar gyfer bookmark tud.1).

Oherwydd natur ei thirwedd, a oedd yn cynnwys Eryri yn ei chyfanrwydd, roedd yn anodd ymosod arni, a daeth yn un o deyrnasoedd mwyaf pwerus Cymru.

Yn ystod y ddeuddegfed ganrif, datblygodd Gwynedd yn dywysogaeth. Ymhlith ei llywodraethwyr yr oedd Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) a Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn Ein Llyw Olaf), a gafodd ei ddatgan yn Dywysog Cymru yn 1258. Roedd Llywelyn ap Iorwerth yn gyfrifol am adeiladu'r cestyll brodorol Cymreig (o'u cymharu â'r cestyll Eingl-Normanaidd) sydd i'w gweld yn Nolbadarn, Dolwyddelan a Chricieth.

Yn sgil ad-drefnu ffiniau llywodraeth leol yn 1974, atgyfodwyd yr enw Gwynedd ar gyfer sir yn cynnwys pump ardal, sef Môn, Arfon, Aberconwy, Dwyfor a Meirionnydd. Fodd bynnag, yn sgil ad-drefnu pellach, daeth Ynys Môn yn sir ar wahân ac Aberconwy yn rhan o fwrdeisdref sirol Conwy. Heddiw, felly, y mae Gwynedd yn cynnwys tair ardal: Arfon, Dwyfor a Meirionnydd.

Page 57. " Ac wedi hynny, teithiasant mewn heddwch i'r Traeth Mawr "
Golwg dros y Traeth Mawr fel ag y mae heddiw
Creative Commons Attribution Share AlikeGolwg dros y Traeth Mawr fel ag y mae heddiw - Credyd: Ken Bagnall

Yn wreiddiol, Y Traeth Mawr oedd enw'r darn o dywod a thir corsiog rhwng yr hen Sir Feirionnydd a'r hen Sir Gaernarfon (neu yn nhermau'r Mabinogi, rhwng cymydau Ardudwy ac Eifionydd).

Wedi'i leoli wrth aber Afon Glaslyn, byddai'r tir yn aml dan ddŵr, ac yn hynod beryglus i'w groesi. Rhwng 1808 a 1812, drwy ymdrechion William Alexander Madocks, adeiladwyd clawdd o'r enw 'Y Cob' er mwyn cadw'r môr draw o'r Traeth Mawr. Heddiw y mae'r Cob yn cario'r A497 o Borthmadog i Finffordd, llwybr seiclo a Rheilffordd Ffestiniog

Page 61. " Ac ar unwaith, cyn gynted ag y daeth i'r môr, fe gafodd natur y môr ac fe nofiai cystal â'r pysgod gorau yn y môr ac oherwydd hynny y gelwid ef Dylan Ail Don "

Ar arfordir gogledd Cymru rhwng Aberdesach a Phontllyfni, y mae Trwyn Maen Dylan ac ar y traeth islaw, y mae 'na garreg fawr a elwir yn  Faen Dylan.

Y mae'r garreg hon wedi'i chysylltu â Dylan Eil Ton (Dylan, Mab Ton) gan ei bod yn agos iawn at y rhan o hen gantref Arfon lle y credir i rai o ddigwyddiadau  Math fab Mathonwy gael eu lleoli.

Nid oedd Dylan yn enw poblogaidd i fechgyn yng Nghymru nes iddo gael ei boblogeiddio gan y bardd  Dylan Thomas. Credir bod ei dad dysgedig, David John Thomas, wedi'i weld yn Y Mabinogi.

 

Maen Dylan
Creative Commons AttributionMaen Dylan - Credyd: Harlech

Google Map
Page 62. " Dyma a wnaeth, cyrchu Caer Arianrhod a'r mab gydag ef "

Caer Aranrhod (neu Caer Arianrhod) yw'r enw a roddir i greigiau yn y môr ryw filltir oddi ar arfordir Dinas Dinlle sy'n bentref tua chwe milltir o Gaernarfon yng Ngwynedd. Ni ellir gweld y creigiau oni bai bod y llanw ar drai.

Yn nes ymlaen yn y stori, ceir cyfeirio at Ddinas Dinlle (sy'n safle caer Oes yr Haearn) fel Dinas Dinlleu, wedi ei ysgrifennu i awgrymu fod yna gysylltiad rhyngddi a Lleu Llaw Gyffes, y mab y mae Arianrhod yn ei wrthod.

Y mae Caer Arianrhod hefyd yn enw ar y cytser (constellation) gogleddol Corona Borealis. Cysylltir y cytser hwn ag Ariadne, y dduwies Roegaidd.

 

Dinas Dinlle
Public DomainDinas Dinlle - Credyd: Ijanderson 977

Google Map

 

 

Dinas Dinlle
Page 64. " Lleu Llaw Gyffes ydyw bellach "
Engraving of (from left to right) Apollo, Lugus (Mercury), Cernunnos
Public DomainEngrafiad (o'r chwith i'r dde) o Apolon, Lugus (Mercher) a Cernunnos - Credyd: o lyfr gan J.L. Courcelle-Seneuil

Ystyr Lleu Llaw Gyffes yw'r 'un gwallt golau â llaw sydyn'. Credir bod cysylltiad rhwng yr enw Lleu a'r duw Celtaidd Lug (Lugus yn y traddodiad Rhufeinig; Lugh yn y traddodiad Gwyddelig) ac yntau wedi'i gysylltu â'r duw Rhufeinig Mercher. Weithiau y mae'n cael ei bortreadu gyda thri phen.

Ceir amrywiadau ar enw'r duw hwn mewn sawl enw lle, gan gynnwys Lyon, Leiden, Laon a Caerliwelydd (yr enw Cymraeg ar Carlisle). Y mae Lughnasa, gwŷl Lug, yn digwydd ar y cyntaf o Awst ac y mae ei dathlu hi yn dal yn draddodiad yn Iwerddon. Credir bod yna gysylltiadau rhwng Lughnasa a'r gwyliau Lammas (yn Lloegr) a Chalan Awst yng Nghymru.

 

Page 66. " Ac yna fe gymerasant hwy flodau'r deri a blodau'r banadl a blodau'r erwain "
English Oak
Creative Commons Attribution Share Alike'Y dderwen Seisnig' - Credyd: Loz Pycock

Y mae tua 600 o rywiogaethau coed derw a llwyni sy'n perthyn i'r genws Quercus. Y mae'r 'dderwen gyffredin' (Common Oak/Quercus robur) a elwir weithiau yn 'dderwen Seisnig' (English Oak) yn goeden gyffredin drwy Brydain i gyd, a dywedir mai hi yw coeden fwyaf cyffredin Ewrop ers y cyfnod cyn-hanesyddol.

Fel yr onnen a'r ddraenen, y mae'r dderwen wedi chwarae rhan bwysig yn chwedloniaeth a llên werin y Celtiaid. Credid i'r dderwen feddu ar bwerau goruwchnaturiol, a'i bod yn un o fynedfeydd Annwfn. Ceir sawl cyfeiriad at y dderwen yn yr englyn y mae Gwydion yn ei ganu wrth Lleu yn ystod y cyfnod y mae wedi'i rithio'n eryr.

 

Broom
GNU Free Documentation LicenseY banadl - Credyd: H.Zell

Y Banadl yw'r enw a roddir ar nifer fawr o lwyni sy'n perthyn i'r genera Chamaecytisus, Cytisus a Genista. Un o'r mwyaf adnabyddus yw'r 'banadl cyffredin' (common broom/Cytisus scoparius) sydd i'w gweld drwy ogledd Ewrop i gyd. Y mae gan y rhan fwyaf o rywiogaethau'r banadl flodau melyn.

 

 

 

 

 

 

 

Meadowsweet
Creative Commons Attribution Share AlikeYr Erwain- Credyd: Amanda Slater

Llysieuyn lluosflwydd sy'n gyffredin yn Ewrop a Gorllewin Asia yw'r erwain (Filipendula ulmaria). Fe'i gwelir yn aml yn tyfu mewn dolydd gwlyb, ac o'r herwydd fe'i hadnabyddir weithiau fel brenhines y weirglodd. Credir ei bod yn un o lysiau cysegredig y derwyddon, urdd offeiriadol Oes yr Haearn.

 

 

 

 

 

Page 66. " sef yn y llys a elwir Mur Castell "
Tomen y Mur
Creative Commons Attribution Share AlikeTomen y Mur - Credyd: Jeff Buck

Lleolir Mur Castell neu Domen y Mur ger Trawsfynydd yng Ngwynedd.

Safle caer Rufeinig oedd yn wreiddiol, ond adeiladwyd castell yno (gan Wilym Goch/William Rufus, o bosib) yn ystod yr unfed ganrif ar ddeg. Castell tomen a beili (motte-and-bailey) oedd, a'r domen wedi'i hadeiladu y tu mewn i'r waliau Rhufeinig gwreiddiol

 

Page 71. " a chyrchodd nant a elwir Nantlleu yn awr "

Ceir yma enghraifft arall o enw yr honnir iddo fod yn gysylltiedig â Lleu (gweler hefyd Dinas Dinlleu yn y bookmark ar gyfer tud. 62). Heddiw, rydym yn sôn am Ddyffryn Nantlle, dyffryn a leolir i'r dwyrain o Benygroes a Thalysarn yng Ngwynedd. Un o bentrefi Dyffryn Nantlle yw Nantlle lle y mae llyn o'r enw Llyn Nantlle Uchaf . Ar un adeg roedd llyn arall yno o'r enw Llyn Nantlle isaf. Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif gynnar, roedd chwareli llechu yn yr ardal, ac y mae olion y rhain i'w gweld o hyd ar y tirwedd.

 

Llyn Nantlle Uchaf
Creative Commons Attribution Share AlikeLlyn Nantlle Uchaf - Credyd: David Medcalf

Google Map

 

Page 72. " Ac yna ni wyddent ddim hyd oni syrthiasant i'r llyn ac y boddasant oll heblaw amdani hi ei hunan "
Llyn y Morynion
Creative Commons Attribution Share AlikeLlyn y Morynion - Credyd: Gareth Jones

Tua thair milltir o Domen y Mur (gweler bookmark tud.66) i'r dwyrain o bentref Ffestiniog, y mae llyn o'r enw Llyn y Morynion.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth. 

Page 72. " Dyna yw Blodeuwedd, tylluan, yn yr iaith sydd yr awr hon "
Barn Owl
Creative Commons Attribution Share AlikeTylluan wen - Credyd: Steve Garvie

Rhestrir y gair blodeuwedd am dylluan neu gwdihŵ yng ngeiriadur y Parch. D. Silvan Evans a gyhoeddwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ysbrydolodd stori Blodeuwedd ddrama o'r un enw, gan Saunders Lewis, yn ogystal â nofel gan Alan Garner o dan y teitl The Owl Service. Gwnaed ffilm hefyd o'r nofel hon.

Y mae'r stori hefyd yn un o fotiffau pwysig Y Dylluan Wen gan Angharad Jones, a enillodd Fedal Rhyddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1995.

 

 

Page 73. " ac yno y mae'r garreg ar lan Afon Cynfael yn Ardudwy a'r twll drwyddi. Ac oherwydd hynny y'i gelwir eto Llech Gronw "
Cwm Cynfal
Creative Commons Attribution Share AlikeCwm Cynfal - Credyd: David Medcalf

Y mae'r garreg a elwir yn Llech Gronw i'w gweld heddiw ar dir tyddyn Bryn Saeth yng Nghwm Cynfal, nid nepell o Flaenau Ffestiniog yng Ngwynedd. Dywedir y daethpwyd o hyd iddi ar lannau Afon Bryn Saeth, is-afon Afon Cynfal. Dywedir hefyd mai bedd Gronw Pebr yw twmpath bach ar dir tŷ o'r enw  ‘Llech Goronwy’.

Darllenwch fwy am fedd Gronw Pebr yma.

Cliciwch yma i weld llun o 'Lech Gronw'.

Page 74. " Yr oedd Macsen Wledig yn ymherodr yn Rhufain "
Coin depicting Magnus Maximus
Public DomainDarn o arian yn portreadu Macsen Wledig - Credyd: anhysbys

Macsen Wledig yw'r enw Cymraeg ar Magnus Maximus (ca.335-388), a adnabyddid hefyd fel Maximianus. Daeth yn bennaeth ar y lluoedd Rhufeinig ym Mhrydain yn 380, a'i ddyrchafu'n Ymerawdwr Rhufain y Gorllewin (Western Roman Emperor) yn 384. Cafodd ei drechu mewn brwydr gan Theodosius I yn 388, a chafodd ei ddienyddio'n fuan wedyn.

 Y mae'r ffordd y mae'r Rhufeinwyr yn cael eu portreadu yn Breuddwyd Macsen yn gadarnhaol iawn. Yn wir, bu i sawl llwyth Cymraeg a llinach frenhinol honni eu bod yn ddisgynyddion Macsen Wledig.

Y mae'r berthynas gadarnhaol rhwng Cymru a Rhufain yn cael ei chyfeirio ati yn anthem eiconig Dafydd Iwan, ‘Yma o Hyd’ lle'r awgrymir bod Macsen Wledig wedi cael effaith fuddiol ar Gymru.