Page 78. " a theithiasant ar hyd yr ynys hyd oni ddaethant i Eryri "
Snowdon
Creative Commons Attribution Share AlikeYr Wyddfa - Credyd: Steve Cadman

 

Cnicht
Creative Commons Attribution Share AlikeCnicht - Credyd: Keith Evans
Aran Fawddwy
Creative Commons Attribution Share AlikeAran Fawddwy - Credyd: Graham Horn

Eryri yw'r enw Cymraeg ar yr hyn a elwir yn Saesneg yn  Snowdonia.  Copa uchaf Eryri yw Yr Wyddfa.

Y mae Parc Cenedlaethol Eryri yn un o Barciau Cenedlaethol Cymru. Ymhlith y mynyddoedd yn y Parc, y mae Tryfan, Carnedd Dafydd, Cnicht, Rhinog Fawr, Cadair Idris ac Aran Fawddwy.

Page 78. " Ac fe welent Aber Saint a'r gaer wrth aber yr afon "
The estuary of the River Seiont, looking towards Anglesey
Creative Commons Attribution Share AlikeAber Afon Seiont, tua chyfeiriad Ynys Môn - Credyd: Eric Jones

Fel Caer Saint (gweler bookmark tud.30), enw ar Gaernarfon yw Aber Saint. Y mae'n cyfeirio at aber Afon Seiont sy'n cyrraedd y Fenai yng Nghaernarfon.

Y mae'r gaer y cyfeirir ati yn yr enw Caer Saint yn wahanol i Gastell Caernarfon fel ag y mae heddiw. Adeiladwyd hwnnw gan Edward I yn y drydedd ganrif ar ddeg.

 

 

Page 79. " A'r bore trannoeth gofynnodd y forwyn am ei thâl morwynol oherwydd ei chael yn forwyn "
Illustration from the Codex Manesse (1305-1350)
Public DomainDarlun o'r Codex Manesse (1305-1350) - Credyd: anhysbys

Cyn i'r Deddfau Uno gael eu pasio yn yr unfed ganrif ar bymtheg, roedd y Gyfraith  yng Nghymru yn wahanol i'r Gyfraith yn Lloegr. Rhoddwyd trefn ar gyfreithiau Cymru yn y ddegfed ganrif yn ystod cyfnod Hywel Dda. Roedd rhai o'r cyfreithiau hyn yn ymwneud â hawliau merched yn benodol. Yn eu plith roedd deddf yn datgan bod gŵr yn gorfod talu'r hyn a elwir yn gowyll i'w wraig ar ôl y tro cyntaf iddo gysgu gyda hi fel cydnabyddiaeth o'i gwyryfdod.Mae'n debyg felly y dylid defnyddio'r gair cowyll yn y fan hon, yn hytrach na thâl morwynol.

Fodd bynnag, roedd cyfeirio yn y deddfau Cymreig at daliad arall, a elwir yn 'maiden-fee' yn Saesneg ac amobr yn Gymraeg. Hwn oedd y swm yr oedd tad yn gorfod ei dalu i'r arglwydd ffiwdalaidd pan gollai ei merch ei gwyryfdod.

Ceir cyfeirio hefyd at y tâl morwynol yn Culhwch ac Olwen.

 

 

Page 80. " Fe elwid Caer Fyrddin felly am i'r gaer gael ei gwneuthur gan fyrdd o wŷr "

Ceir yma esboniad arall ar darddiad enw lle, sef Caerfyrddin yn yr achos hwn. Esboniad arall ar darddiad Caerfyrddin  yw ei fod yn cyfeirio at y dewin chwedlonol Myrddin/Merlin.

Ar y cyfan, fodd bynnag, derbynnir mai'r esboniad mwyaf dilys yw bod yr enw Caerfyrddin yn deillio o'r enw Maridunum neu Moridunum, a oedd yn gaer Rufeinig ar safle tref Caerfyrddin fel ag y mae heddiw.

 

Google Map
Page 80. " Ac oherwydd hynny y gelwir hwy yn Ffyrdd Elen Luyddog oherwydd ei bod hi'n hanfod o Ynys Prydain ac na wnâi gwŷr Ynys Prydain y lluoedd mawr hynny i neb ond iddi hi. "
Sarn Helen
Creative Commons Attribution Share AlikeSarn Helen - Credyd: Roger Kidd

Ceir yma eglurhad ar yr enw  Elen Luyddog, gan mai ffurf ansoddeiriol lluydd (llu neu fyddin) yw lluyddog. Fe'i hadnabyddir hefyd fel Santes Helena o Gaernarfon ac yn Saesneg fel 'Helen of the Hosts'. Y mae'n cael ei chymysgu weithiau â Santes Helena o Gaer Gystennin (St. Helena of Constantinople), mam yr Ymerawdwr Cystennin. Y mae ffordd Rufeinig o'r enw Sarn Helen yng Nghymru, ffaith a ddefnyddir i gefnogi'r syniad bod yna gysylltiad rhwng Elen Lyuddog ac adeiladu ffyrdd. Fodd bynnag, y mae yna ddadleuon hefyd ynghylch dilysrwydd yr enw Sarn Helen.

 

Page 82. " Ac oherwydd i'r gwragedd a'u hiaith dewi y gelwid gwŷr Prydain yn 'Llydaw' "

Yr enw Cymraeg ar Brittany yw Llydaw. Awgrymir yma ei bod yn cynnwys dwy elfen: lled (yn rhannol) a taw (distawrwydd).

 

Google Map
Page 86. " 'Draig yw'r ail ormes sydd yn dy deyrnas,' meddai ef, 'ac y mae draig cenedl estron arall yn ymladd â hi ac yn ceisio ei goresgyn. "
Welsh dragon
Public DomainY Ddraig Goch - Credyd: Calum Hutchinson

Mae'r disgrifiad o'r 'ail ormes' yn debyg iawn i'r hyn a ddisgrifir gan Nennius yn Historia Brittonum (Hanes Prydain/History of Britain, c.830), a chan Sieffre o Fynwy (Geoffrey of Monmouth) yn Historia Regum Britanniae (Brut y Brenhinedd/History of the Kings of Britain, c.1138).

Yn fersiwn Nennius, y mae'r pennaeth Gwertheyrn/Vortigern yn methu ag adeiladu caer yn Ninas Emrys (‘Fortress of Ambrosius’) ger Beddgelert yng Ngwynedd oherwydd brwydr danddaearol rhwng draig goch (sy'n cynrychioli'r Prydeinwyr brodorol/y Cymry) a draig wen (sy'n cynrychioli'r Sacsoniaid/y Saeson).

Darogenir gan Ambrosius y bydd y ddraig wen yn teyrnasu am sbel go hir, ond y bydd yn y pen draw yn cael ei threchu gan y ddraig goch. Yn fersiwn Sieffre, y mae'r stori i bob pwrpas yr un fath, heblaw'r ffaith mai  Myrddin/Merlin  sy'n darogan canlyniad y frwydr. Yn Lludd a Llefelys  manteisir ar y cyfle i egluro tarddiad yr enw Dinas Emrys.

Heddiw,  y ddraig goch yw canolbwynt baner genedlaethol Cymru.

 

Dinas Emrys
Creative Commons Attribution Share AlikeDinas Emrys - Credyd: Peter Shone

 

Google Map

 

Page 89. " Culhwch ac Olwen "
1st century BC depiction of a boar (Celtic Museum, Hallein)
GNU Free Documentation License Portread o faedd gwyllt a wnaed yn ystod y ganrif gyntaf Cyn Crist (Amgueddfa'r Celtiaid, Hallein) - Credyd: Wolfgang Sauber

Y mae Culhwch (yn llythrennol: cwt moch) yn cael ei enwi felly am iddo gael ei eni lle roedd bugail moch (meichiad) yn gofalu am ei anifeiliaid.

Y mae Olwen (ôl* wen) yn cael ei henwi felly am i bedair meillionen wen dyfu yn olion ei thraed lle bynnag y cerddai.

Cyfieithiad arall ar Culhwch yw hwch (mochyn benywaidd) denau. Y mae wedi'i awgrymu fod yna gysylltiadau rhwng Culhwch a'r duw Celtaidd Moccus (y gair Galeg (Gaulish) am fochyn neu faedd gwyllt) a gysylltir â'r duw Rhufeinig  Mercher.

 

*heddiw, ystyrir 'ôl' yn air gwrywaidd.

 

 

White clover (Trifolium repens)
Creative Commons Attribution Share AlikeY feillionen wen (Trifolium repens) - Credyd: contri
Page 93. " A Chaledfwlch fy nghleddyf "
Sir Bedivere returning Excalibur to the lake
Public DomainBedwyr yn dychwelyd Caledfwlch i'r llyn - Credyd: Aubrey Beardsley

Caledfwlch yw'r enw ar gleddyf y Brenin Arthur, yr hyn a adnabyddir mewn Saesneg yn Excalibur.

Yn Morte d’Arthur gan Malory, rhodd 'Iarlles y Llyn' (The Lady of the Lake) i Arthur yw Caledfwlch, ac y mae'n cael ei ddychwelyd iddi gan Fedwyr (Bedivere) ar ôl i Arthur gael ei glwyfo'n angheuol yng Nghad Gamlan.

Y mae chwedl enwog arall yn cyfeirio at Arthur yn tynnu cleddyf o garreg, gweithred a'i cadarnhaodd yn frenin, ond nid Caledfwlch yw'r cleddyf dienw hwnnw.

 

Page 94. " Ac erchi ei anrheg a wnaeth yn enw Cai a Bedwyr "
Knights of the Round Table
Public DomainMarchogion y Ford Gron - Credyd: anhysbys

Fel y nodir yn bookmark tud. 172, y mae enwau Cai a Bedwyr yn cael eu cysylltu'n aml, a chyfeirir at y ddau ohonynt yn y gerdd Gymraeg Pa Gur.

Mewn llenyddiaeth Arthuraidd Saesneg maen' nhw'n cael eu hadnabod fel  Sir Kay a Sir Bedivere.

 

Page 95. " ni phlannodd neb ei waywffon ynddo yng Nghamlan gan ei deced "

Dywedir mai Cad Gamlan (Battle of Camlan) oedd brwydr derfynol y Brenin Arthur chwedlonol, ac iddo gael naill ai ei ladd neu ei glwyfo'n angheuol ynddi. Cyfeirir ati yn Annales Cambriae ac yn Historia Regum Britanniae Sieffre o Fynwy. Y mae sawl cyfeiriad ati hefyd yn Breuddwyd Rhonabwy.

Y mae cryn ddyfalu wedi bod ynghylch lleoliad Cad Gamlan. Ymhlith y lleoedd a awgrymir y mae Queen Camel yng Ngwlad yr Ha'; y Gaer Rufeinig Camboglanna (Castlesteads) ar Wal Hadrian; Camelon ger Falkirk yn yr Alban; a Chwm Camlan ger Ganllwyd, i'r dwyrain o Ddolgellau yng Ngogledd Cymru. (Un o isafonydd Afon Mawddach yw Afon Camlan).

 

Waterfall at Cwm Camlan
Creative Commons Attribution Share AlikeRhaeadr yng Nghwm Camlan - Credyd: Keith Havercroft

Google Map