I’r sawl ohonom sydd wedi ceisio mynd i’r afael (a methu ag ymdopi!) ag orgraff hynafol rhai argraffiadau o chwedlau’r Mabinogion, y mae diweddariad Dafydd a Rhiannon Ifans yn chwa o awyr iach. Ceir yma ryddiaith gyfoes sy’n hawdd i’w darllen ond sy’n cadw naws urddasol Cymraeg y llawysgrifau canoloesol. Yn ogystal, y mae yna ragymadrodd gwych gan Brynley F. Roberts sy’n rhoi’r chwedlau yn eu cyd-destun ac esbonio sawl agwedd astrus ar y testun.

Un o’r pethau mwyaf gafaelgar am chwedlau’r Mabinogion yw bod eu cynnwys mor unigryw ac mor anarferol i’r darllenydd cyfoes. I’r sawl sy’n darllen deunydd cefndirol ar y chwedlau, daw yn glir mai fersiynau ar dduwiau a duwiesau Celtaidd yw rhai o’r cymeriadau, a bod y testun yn drwm dan ddylanwad adroddiadau ffug-hanesyddol fel Brut y Brenhinedd. Ceir gweld, er enghraifft, sut y mae’r Cymry yn eu brolio’u hunain wrth hawlio cysylltiadau ag Ymerodraeth Rufain a thrwy osod eu cyndeidiau eu hunain ar orsedd Ynys Prydain.

Er mor braf yw cael esboniadau ar y chwedlau, gellir dadlau hefyd mai peth da yw eu darllen am y tro cyntaf heb droi at y nodiadau gan fod hyn yn rhoi’r cyfle i ddychymyg y darllenydd redeg yn rhemp. Wrth gwrs, hynod ddiddorol yw gwybod bod gan y cymeriad Rhiannon (sy’n ymddangos yng Nghainc Gyntaf a Thrydedd Gainc y Mabinogi) gysylltiadau â’r duwiesau Celtaidd Rigantona ac Epona. Ar y llaw arall, y mae peidio â gwybod hyn yn medru bod yn fantais gan ei fod yn creu rhyw ddirgelwch yn ei chylch ac yn pwysleisio naws hudol ac afreal y chwedlau.

Hefyd, y mae darllen y chwedlau am y tro cyntaf heb arweiniad yn caniatáu ymateb personol iawn iddynt. Er enghraifft, cefais i fy nghyffwrdd gan y disgrifiad o farwolaeth moch bach y Twrch Trwyth yn Culhwch ac Olwen: Ac yna fe laddwyd un arall o’i foch – Gwys oedd ei enw. Ac oddi yno fe aeth i Ddyffryn  Amanw ac yna fe laddwyd Banw a Benwig. Nid aeth yr un o’i foch oddi yno gydag ef yn fyw ond Grugyn Gwallt Eraint a Llwydawg Gofyniad. Anodd, wrth gwrs, yw rhoi fy mys ar yr hyn sy’n apelio ataf yn y darn hwn, ond y mae’n debyg mai anwyldeb enwau’r rhai bach sy’n cyfrannu at dristwch y dweud. Nid wyf, wrth reswm, yn awgrymu y bydd pawb yn ‘gwirioni’r un fath’ wrth ddarllen chwedlau’r Mabinogion, ond y mae’n bur debyg y bydd y rhan fwyaf o ddarllenwyr yn dod o hyd i ryw frawddegau neu ymadroddion y byddant yn eu hystyried ymhlith perlau'r iaith Gymraeg.