Yn wreiddiol, The Mabinogion oedd yr enw a roddwyd i'r fersiwn Saesneg (cyfieithiad y Fonesig Charlotte Guest) o ddeuddeg o straeon o lawysgrifau canoloesol Cymraeg.  Er ei bod yn bosib ystyried pob stori yn uned annibynnol, y mae hefyd yn bosib categoreiddio'r straeon mewn ffyrdd gwahanol.

Y mae'r pedair chwedl a elwir yn 'Bedair Cainc y Mabinogi' yn drwm dan ddylanwad mytholeg Geltaidd ac yn ffurfio rhyw fath o gyfanwaith. Y mae llawer iawn o'r cymeriadau yn meddu ar bwerau dwyfol a goruwchnaturiol, ac ansefydlog yw'r ffin rhwng Annwfn a byd realiti bob dydd. 

Weithiau rhoddir yr enw 'y Tair Rhamant' i ‘Hanes Peredur fab Efrog’, ‘Chwedl Iarlles y Ffynnon’ a ‘Geraint fab Erbin’ am eu bod yn ymdrin â themâu Arthuraidd a byd marchogion a'u hanturiaethau carwriaethol.

Y mae'r Brenin Arthur a'i ddynion yn gymeriadau pwysig hefyd yn ‘Culhwch ac Olwen’ a ‘Breuddwyd Rhonabwy’, er eu bod yn cael eu portreadu yn y straeon hyn mewn ffordd wahanol i'r ffordd y'u portreadir yn y Tair Rhamant. Yn y chwedl gyntaf, cyflwynir Arthur anturiaethus, arwrol sydd ynghlwm wrth fyd hud a lledrith; yn yr ail chwedl, y mae naws ddychanol iawn i'r portread ohono ac, o bosib, ceir yma alegori ar y sefyllfa wleidyddol yng Nghymru yn ystod y ddeuddegfed ganrif neu'r drydedd ganrif ar ddeg.

Ar lefel arwynebol, y mae'r ddwy stori arall, ‘Breuddwyd Macsen' a ‘Lludd a Llefelys’, yn wahanol iawn i'w gilydd o ran cynnwys, er bod y ddwy yn cyflwyno safbwynt nodweddiadol Gymreig ar ddigwyddiadau hanesyddol. Yn y stori gyntaf, ceir disgrifiad o'r ymerawdwr Magnus Maximus yn teithio i Gaer Saint (heddiw, Caernarfon yng Ngogledd Cymru) i chwilio am y ferch y mae wedi syrthio mewn cariad â hi mewn breuddwyd. Cyflwynir priodas y ddau yn ddigwyddiad hynod gadarnhaol, sy'n dangos y parch a deimlid yng Nghymru yr Oesoedd Canol ynghylch y ddolen gyswllt rhwng y Prydeinwyr brodorol (cyndeidiau'r Cymry) a'r Rhufeiniaid. Lleolir yr ail stori yn y gorffennol dychmygol pan reolid Ynys Prydain gan un brenin. Pan fydd 'tri phla' yn disgyn ar y deyrnas, goresgynnir y rhain gan Ludd, Brenin Prydain gyfan, a phwysleisir eto felly oruchafiaeth y sawl yr oedd y Cymry canoloesol yn eu hystyried yn gyndeidiau iddynt.