Ffacsimili o dudalen o 'Lyfr Coch Hergest'
Public DomainFfacsimili o dudalen o 'Lyfr Coch Hergest' - Credyd: William Forbes Skene

Ac eithrio ‘Pedair Cainc y Mabinogi’ (sy'n ffurfio rhyw fath o gyfanwaith), nid oes amheuaeth y cafodd y chwedlau sy'n ymddangos o dan y teitl  Y Mabinogion eu hysgrifennu gan awduron gwahanol mewn cyfnodau gwahanol. Y mae'r chwedlau gwreiddiol ar gael mewn dwy lawysgrif ganoloesol, sef Llyfr Gwyn Rydderch a Llyfr Coch Hergest. Y mae'r gyntaf yn dyddio o tua 1350, a'r ail o tua 1400, ond mae dull yr ysgrifennu yn awgrymu bod y llawysgrifau yn cynnwys deunydd a gofnodwyd am y tro cyntaf mewn cyfnod llawer cynharach. Yn ogystal, 'does dim dwywaith mai straeon a basiwyd o genhedlaeth i genhedlaeth ar lafar oeddynt cyn iddynt gael eu cofnodi yn y llawysgrifau. Yr unig eithriad yw Breuddwyd Rhonabwy sydd (fel y nodir ar ddiwedd y stori ei hun) yn waith llenyddol gwreiddiol.

Yn gyffredinol, cymerir yn ganiataol mai dynion oedd awduron y chwedlau. Fodd bynnag, y mae'r Dr. Andrew Breeze, mewn llyfr o dan y teitl The Origins of the Four Branches of the Mabinogi (Herefordshire: Gracewing, 2009), yn cynnig y ddamcaniaeth mai'r  Dywysoges Gwenllian (c.1097-1136), merch Gruffudd ap Cynan, Brenin Gwynedd, a gwraig Gruffudd ap Rhys, Tywysog Deheubarth, oedd awdures y Pedair Cainc.

Cliciwch yma i ddarllen mwy am ddamcaniaeth y Dr. Breeze

 

Y DIWEDDARWYR:

Awdur, cyfieithydd a golygydd yw DAFYDD IFANS a enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Myrddin yn 1974 am ei nofel Eira Gwyn yn Salmon. Ymysg ei gyhoeddiadau eraill, y mae Annwyl Kate, Annwyl Saunders (1992); Trysorfa Cenedl: Llyfrgell Genedlaethol Cymru (1998); a Gwladfa Kyffin/Kyffin in Patagonia (2004).

 

Academydd ac awdur llyfrau i blant ac oedolion yw'r DR. RHIANNON IFANS. Ymysg ei chyhoeddiadau y mae Yn Dyrfa Weddus: Carolau ar gyfer y Plygain (2003); Gwaith Syr Dafydd Trefor (2005) ac Y Golygiadur: llawlyfr ar gyfer awduron a golygyddion (2006). Y mae ar hyn o bryd yn gymrawd ymchwil yn Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Dwyieithrwydd ym Mhrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant.