This map plots the settings and references in Y Mabinogion
To start exploring, click a red pin
Golygfa o Dre'r Ceiri yng Ngwynedd - Credyd:
Gordon Hatton
Mynydd Carningli yn Sir Benfro - Credyd:
Richard Webb
Cofeb Llywelyn ap Gruffudd yng Nghilmeri - Credyd:
Rhion Pritchard
Lleolir chwedlau'r Mabinogion mewn llawer o lefydd gwahanol yng Nghymru, yn enwedig yn hen deyrnasoedd Gwynedd yng ngogledd-orllewin Cymru, a Dyfed yn ne-orllewin Cymru. Yn nes ymlaen, daeth tiriogaeth teyrnas Gwynedd yn siroedd Môn, Caernarfon, Meirionnydd a Dinbych, a thiriogaeth teyrnas Dyfed yn siroedd Penfro a Chaerfyrddin. Atgyfodwyd yr enwau Gwynedd a Dyfed fel enwau siroedd yn 1974, er i'r enw Dyfed gael ei ddileu eto yn 1996.
Yn ystod y cyfnod ôl-Rufeinig roedd nifer o fân deyrnasoedd yng Nghymru, a'u llywodraethwyr yn brywdro yn erbyn ei gilydd i ymestyn ffiniau eu teyrnasoedd. Yn y ddeuddegfed ganrif a'r drydedd ganrif ar ddeg, bu i ddau dywysog Gwynedd, Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) a Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn Ein Llyw Olaf), ddod yn agos at uno Cymru o dan un arweinydd, ond pan gafodd Llywelyn ap Gruffudd ei drechu yng Nghilmeri yn 1282, daeth Cymru i bob pwrpas yn un o drefedigaethau Lloegr. Cafwyd amharu pellach ar ei rhyddid yn ystod cyfnod Harri'r Wythfed pan basiwyd y Deddfau Uno a sicrhaodd fod Cymru o dan gyfundrefn Lloegr ym maes gweinyddu yn gyffredinol ac ym maes y gyfraith. Roedd y cymal iaith a waharddodd y defnydd o'r Gymraeg mewn bywyd cyhoeddus yn arbennig o andwyol ei effaith.
Erbyn heddiw y mae poblogaeth Cymru ryw fymryn dros 3 miliwn. Y mae tuag ugain y cant o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg, ac y mae bywyd llenyddol a cherddorol drwy gyfrwng y Gymraeg yn ffynnu. Y mae'r Deddfau Iaith wedi gwella sefyllfa siaradwyr Cymraeg yn y llysoedd yn sylweddol, ac y mae cynnydd enfawr wedi bod mewn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Y mae hunaniaeth y genedl wedi dod yn fwy amlwg hefyd ers sefydlu'r Cynulliad (yn sgil refferendwm 1997) a rhoi cartref iddo yn adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd.
Cliciwch yma i gyrraedd gwefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Cliciwch yma i gyrraedd gwefan Llywodraeth Cymru.
Cymydau Cymru yn ystod yr Oesoedd Canol - Credyd:
Noncurious (wedi'i seilio ar 'History of Wales' gan J.E. Lloyd a 'Celtic Culture' gan Koch)
Dyffryn hyfryd, coediog Afon Cuch (un o isafonydd Afon Teifi) yw Glyn Cuch neu Gwm Cuch, ac i bob pwrpas y mae cwrs Cuch yn dilyn y ffin rhwng Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Roedd Is Cuch ac Uwch Cuch yn enwau ar ddau o’r cymydau canoloesol.
Afon Cuch:
Carnedd Brown Low ger Marple yn ardal Manceinion - Credyd:
Dave Dunford
Credir y cyfeirir yma at Arberth (Narberth yn Saesneg) yn ne-ddwyrain Sir Benfro. Ystyr gorsedd yn y cyd-destun hwn yw carnedd (yr hyn a elwir yn Saesneg yn barrow neu tumulus neu cairn).
Tomenni o bridd neu gerrig yw carneddau. Fe'u crëid o’r cyfnod cynhanesyddol hyd at tua’r nawfed ganrif. Yn sgil cloddio archaeolegol mae crochenwaith, eitemau cerrig, ac esgyrn pobl ac anifeiliaid wedi’u darganfod mewn carneddau. Credid am gyfnod hir mai claddu’r meirw oedd prif swyddogaeth y safleoedd hyn, ond awgrymir bellach eu bod wedi chwarae rhan fwy cymhleth ym mywydau pobl y gorffennol.
Y mae wedi’i grybwyll mai Camp Hill, safle Oes yr Haearn i’r de o Arberth, yw lleoliad posib Gorsedd Arberth.
Y mae cylch mewnol Côr y Cewri yn Wiltshire wedi’i wneud o garreg las yr un ffunud â’r hyn sydd ar gael yn y Preseli. Damcaniaethir felly y cafodd carreg las y Preseli ei chludo i Wiltshire, er y cydnabyddir y byddai hynny wedi bod yn homer o fenter. Damcaniaeth arall yw i’r garreg las gael ei gosod yn ardal Côr y Cewri yn sgil gweithrediad rhewlifol.
Y Preseli, hefyd, yw un o’r lleoliadau yr ymwelir ag ef gan y Twrch Trwyth yn Culhwch ac Olwen.
Cylch cerrig Bedd Arthur yn y Preseli - Credyd:
Andrew Howey
Roedd Ardudwy yn enw ar un o gymydau canoloesol Cymru. Gellir ei gweld ar arfordir gogleddol Bae Ceredigion ar y map yn y bookmark ar dudalen 1. Rhennid yn ddwy ardal, sef Uwch Artro ac Is Artro.
Y mae Harlech yng Ngwynedd yn dref arfordirol sydd wedi chwarae rhan flaenllaw yn hanes Cymru. Y mae’n safle castell mawreddog a adeiladwyd gan Edward y Cyntaf yn y drydedd ganrif ar ddeg yn dilyn y goresgyniad. Hefyd, cafodd ei feddiannu gan Owain Glyndŵr pan oedd yn arwain gwrthryfel y Cymry yn erbyn y Saeson.
Castell Harlech - Credyd:
Oosoom
Roedd Aberffraw ar Ynys Môn yn un o gantrefi* canoloesol Cymru, ac y mae’n dal mewn bodolaeth fel pentref. Rhwng 860 a 1170 roedd yn lleoliad prif lys Brenhinoedd a Thywysogion Gwynedd.
*gweler bookmark tud. 1.
Bae Aberffraw - Credyd:
Gordon Hatton
Ceir yma un o nifer o esboniadau onomastig (eglurhad ar darddiad enwau) sydd i’w cael yn Y Mabinogion. Y lle dan sylw yw Talybolion, cwmwd* yng ngogledd-orllewin Ynys Môn. Fel y nodir gan Gwyn Jones a Thomas Jones yn eu cyfieithiad o’r Mabinogion i’r Saesneg (1948) , cyfieithiad dilys o Talybolion fyddai ‘end of the chasms’ neu ‘end of the ridges’. Hollol ffug, felly, yw'r eglurhad a gynigir yn y testun.
* gweler bookmark tud.1.
Lleoliad cwmwd Talybolion ym Môn:
Castell Caernarfon gyda'r nos - Credyd:
Richard Outram
Un o gantrefi canoloesol Cymru (gweler bookmark tud.1) oedd Arfon, a leolid yng ngogledd-orllewin Cymru gyferbyn ag Ynys Môn. Defynyddir yr enw heddiw ar gyfer un o ardaloedd gweinyddol Gwynedd.
Hen enw ar Gaernarfon yng Ngwynedd yw Caer Saint. Mae Saint yn ffurf ar y gair Seiont, sef yr afon sy’n cyrraedd Y Fenai yng Nghaernarfon. Pan oedd y Rhufeiniaid ym Mhrydain roedd caer Rufeinig o’r enw Segontium yng Nghaernarfon, ac yn y drydedd ganrif ar ddeg adeiladwyd castell yno gan Edward y Cyntaf. Yn y stori Breuddwyd Macsen enw arall ar Gaernarfon yw Aber Saint.
Un o gymydau canoloesol Cymru yw Edeirnion a leolid yn ardal Corwen yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Ceir ei weld ar y map yn bookmark tud.1 i’r gorllewin o Nanheudwy ac i’r ddwyrain o Benlynn Is Treweryn.
Pentref bach gwledig yn Sir Ddinbych, rhwng Corwen a Rhuthun, yw Bryn Saith Marchog.
Abhainn na Life - Credyd:
Jonathan Billinger
Yng nghyfieithiad Sioned Davies o’r Mabinogion (2007) cyfieithir Llinon fel Liffey (Gwyddeleg: Abhainn na Life), afon sy’n codi ym mynyddoedd Wicklow ac yn cyrraedd Môr Iwerydd ym Mae Dulyn. Mae’n llifo drwy ganol Dulyn, prifddinas Iwerddon.
Yng nghyfieithiad Gwyn Jones a Thomas Jones o’r Mabinogion, cyfieithir Llinon fel Shannon (Gwyddeleg: Abhain na Sionainne).
Cigfrain yn Nhŵr Llundain - Credyd:
A. Norppa
Y Tŵr Gwyn - rhan o Dŵr Llundain - Credyd:
Aiwok
Y Gwynfryn yw’r enw a roddir i’r domen gladdu sydd yn ôl y sôn o dan Dŵr Gwyn Tŵr Llundain, y gaer yng nghanol Llundain a adeiladwyd yn ystod yr unfed ganrif ar ddeg. Dywedir nid yn unig fod pen Bendigeidfran wedi’i gladdu yno, ond hefyd i’r Brenin Arthur godi’r pen er mwyn herio statws Bendigeidfran fel gwarchodwr y deyrnas.
Mae ’na draddodiad hir o gadw cigfrain yn Nhŵr Llundain, rhwybeth a gysylltir â’r ffaith fod bran yn elfen o’r enw Bendigeidfran. Hyd yn oed heddiw cedwir o leiaf chwech o gigfrain yn barhaol yn y Tŵr, a honnir pe bai’r cigfrain byth yn gadael, byddai’r Tŵr Gwyn yn chwalu ac anffawd fawr yn dod i ran Prydain Fawr.
Ynys Grassholm, a leolir tua 8 milltir oddi ar arfordir de-orllewinol Sir Benfro, yw Gwales (weithiau Ynys Gwales).
Yn ei lyfr Celtic Folklore: Welsh and Manx, y mae Syr John Rhŷs, Athro Celteg cyntaf Prifysgol Rhydychen, yn cyfeirio at y gred fod yna ynys o dan y dŵr ger Ynys Gwales a fydd o dro i’w gilydd yn dod i’r wyneb. Yn wir, honna un o ffynonellau Syr John iddo fod yn llygad-dyst i’r digwyddiad hwnnw!
Heddiw, y mae Ynys Gwales yn warchodfa i’r fulfran wen (gannet) o dan reolaeth yr RSPB.
Mae'n debyg mai Môr Hafren ('Bristol Channel') yw Aber Henfelen.
Mae Môr Hafren wedi'i leoli rhwng de Cymru a Gwlad yr Haf, Dyfnaint a Chernyw yn Lloegr. Y mae'n ymestyn o aber Afon Hafren at Fôr Iwerydd.
Afon Alaw - Credyd:
Eric Jones
Afon ar Ynys Môn yw Alaw sy'n cyrraedd y môr yn Aber Alaw nid nepell o Gaergybi. Yn 1813 daeth ffermwr (a oedd yn cymryd cerrig o garnedd ger pentref Elim ar lan Afon Alaw) o hyd i gist gladdu wedi'i gwneud o gerrig mewn ardal a adnabyddid erioed fel Ynys Bronwen. Yn y gist roedd wrn yn cynnwys llwch a darnau o esgyrn. Credid felly mai yma yr oedd y 'bedd petryal' y cyfeirir ato yn yr Ail Gainc, ac fe'i henwyd yn Fedd Branwen. Pan fu cloddio ymhellach yn ystod chwedegau'r ganrif ddiwethaf, daethpwyd o hyd i wrnau eraill yn cynnwys llwch ac esgyrn dynol, y credir iddynt hanu o Oes yr Efydd (c. 1800-1600 CC).
Mae rhai o'r wrnau ac eitemau eraill a oedd yn y bedd i'w gweld yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ym Mangor.
Cliciwch yma i weld llun o Fedd Branwen.
Cliciwch yma i weld lluniau o rai o'r eitemau y daethpwyd o hyd iddynt ym Medd Branwen.
Cerflun o 'cordwainer', Stryd Watling, Llundain - Credyd:
Oxyman
Lledr o ansawdd uchel iawn oedd lledr Cordofa (yr hyn a elwir yn Saesneg yn cordwain). Daeth yn wreiddiol o Cordoba sy'n ddinas a thalaith yn ne Sbaen lle y'i gwneid gan y Mwriaid (Moors). Fe'i defnyddid yn benodol ar gyfer gwneud esgidiau, a dyna paham y bathwyd y term cordwainer yn Saesneg i ddisgrifio gwneuthurwr esgidiau o safon. Yn draddodiadol, ystyrid cordwainers yn wahanol i cobblers a oedd yn gyfrifol am drwsio esgidiau yn unig.
Y mae'r geiriau cordovan a shell cordovan yn cael eu defnyddio o hyd i ddisgrifio lledr a wneir yn ôl dulliau traddodiadol y Mwriaid.
Roedd Gwynedd yn un o'r mân deyrnasoedd a ddaeth i fodolaeth ym Mhrydain yn ystod y cyfnod ôl-Rufeinig (gweler y map ar gyfer bookmark tud.1).
Oherwydd natur ei thirwedd, a oedd yn cynnwys Eryri yn ei chyfanrwydd, roedd yn anodd ymosod arni, a daeth yn un o deyrnasoedd mwyaf pwerus Cymru.
Yn ystod y ddeuddegfed ganrif, datblygodd Gwynedd yn dywysogaeth. Ymhlith ei llywodraethwyr yr oedd Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) a Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn Ein Llyw Olaf), a gafodd ei ddatgan yn Dywysog Cymru yn 1258. Roedd Llywelyn ap Iorwerth yn gyfrifol am adeiladu'r cestyll brodorol Cymreig (o'u cymharu â'r cestyll Eingl-Normanaidd) sydd i'w gweld yn Nolbadarn, Dolwyddelan a Chricieth.
Yn sgil ad-drefnu ffiniau llywodraeth leol yn 1974, atgyfodwyd yr enw Gwynedd ar gyfer sir yn cynnwys pump ardal, sef Môn, Arfon, Aberconwy, Dwyfor a Meirionnydd. Fodd bynnag, yn sgil ad-drefnu pellach, daeth Ynys Môn yn sir ar wahân ac Aberconwy yn rhan o fwrdeisdref sirol Conwy. Heddiw, felly, y mae Gwynedd yn cynnwys tair ardal: Arfon, Dwyfor a Meirionnydd.
Golwg dros y Traeth Mawr fel ag y mae heddiw - Credyd:
Ken Bagnall
Yn wreiddiol, Y Traeth Mawr oedd enw'r darn o dywod a thir corsiog rhwng yr hen Sir Feirionnydd a'r hen Sir Gaernarfon (neu yn nhermau'r Mabinogi, rhwng cymydau Ardudwy ac Eifionydd).
Wedi'i leoli wrth aber Afon Glaslyn, byddai'r tir yn aml dan ddŵr, ac yn hynod beryglus i'w groesi. Rhwng 1808 a 1812, drwy ymdrechion William Alexander Madocks, adeiladwyd clawdd o'r enw 'Y Cob' er mwyn cadw'r môr draw o'r Traeth Mawr. Heddiw y mae'r Cob yn cario'r A497 o Borthmadog i Finffordd, llwybr seiclo a Rheilffordd Ffestiniog.
Ar arfordir gogledd Cymru rhwng Aberdesach a Phontllyfni, y mae Trwyn Maen Dylan ac ar y traeth islaw, y mae 'na garreg fawr a elwir yn Faen Dylan.
Y mae'r garreg hon wedi'i chysylltu â Dylan Eil Ton (Dylan, Mab Ton) gan ei bod yn agos iawn at y rhan o hen gantref Arfon lle y credir i rai o ddigwyddiadau Math fab Mathonwy gael eu lleoli.
Nid oedd Dylan yn enw poblogaidd i fechgyn yng Nghymru nes iddo gael ei boblogeiddio gan y bardd Dylan Thomas. Credir bod ei dad dysgedig, David John Thomas, wedi'i weld yn Y Mabinogi.
Maen Dylan - Credyd:
Harlech
Caer Aranrhod (neu Caer Arianrhod) yw'r enw a roddir i greigiau yn y môr ryw filltir oddi ar arfordir Dinas Dinlle sy'n bentref tua chwe milltir o Gaernarfon yng Ngwynedd. Ni ellir gweld y creigiau oni bai bod y llanw ar drai.
Yn nes ymlaen yn y stori, ceir cyfeirio at Ddinas Dinlle (sy'n safle caer Oes yr Haearn) fel Dinas Dinlleu, wedi ei ysgrifennu i awgrymu fod yna gysylltiad rhyngddi a Lleu Llaw Gyffes, y mab y mae Arianrhod yn ei wrthod.
Y mae Caer Arianrhod hefyd yn enw ar y cytser (constellation) gogleddol Corona Borealis. Cysylltir y cytser hwn ag Ariadne, y dduwies Roegaidd.
Dinas Dinlle - Credyd:
Ijanderson 977
Tomen y Mur - Credyd:
Jeff Buck
Lleolir Mur Castell neu Domen y Mur ger Trawsfynydd yng Ngwynedd.
Safle caer Rufeinig oedd yn wreiddiol, ond adeiladwyd castell yno (gan Wilym Goch/William Rufus, o bosib) yn ystod yr unfed ganrif ar ddeg. Castell tomen a beili (motte-and-bailey) oedd, a'r domen wedi'i hadeiladu y tu mewn i'r waliau Rhufeinig gwreiddiol
Ceir yma enghraifft arall o enw yr honnir iddo fod yn gysylltiedig â Lleu (gweler hefyd Dinas Dinlleu yn y bookmark ar gyfer tud. 62). Heddiw, rydym yn sôn am Ddyffryn Nantlle, dyffryn a leolir i'r dwyrain o Benygroes a Thalysarn yng Ngwynedd. Un o bentrefi Dyffryn Nantlle yw Nantlle lle y mae llyn o'r enw Llyn Nantlle Uchaf . Ar un adeg roedd llyn arall yno o'r enw Llyn Nantlle isaf. Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif gynnar, roedd chwareli llechu yn yr ardal, ac y mae olion y rhain i'w gweld o hyd ar y tirwedd.
Llyn Nantlle Uchaf - Credyd:
David Medcalf
Llyn y Morynion - Credyd:
Gareth Jones
Tua thair milltir o Domen y Mur (gweler bookmark tud.66) i'r dwyrain o bentref Ffestiniog, y mae llyn o'r enw Llyn y Morynion.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Cwm Cynfal - Credyd:
David Medcalf
Y mae'r garreg a elwir yn Llech Gronw i'w gweld heddiw ar dir tyddyn Bryn Saeth yng Nghwm Cynfal, nid nepell o Flaenau Ffestiniog yng Ngwynedd. Dywedir y daethpwyd o hyd iddi ar lannau Afon Bryn Saeth, is-afon Afon Cynfal. Dywedir hefyd mai bedd Gronw Pebr yw twmpath bach ar dir tŷ o'r enw ‘Llech Goronwy’.
Darllenwch fwy am fedd Gronw Pebr yma.
Cliciwch yma i weld llun o 'Lech Gronw'.
Ceir yma esboniad arall ar darddiad enw lle, sef Caerfyrddin yn yr achos hwn. Esboniad arall ar darddiad Caerfyrddin yw ei fod yn cyfeirio at y dewin chwedlonol Myrddin/Merlin.
Ar y cyfan, fodd bynnag, derbynnir mai'r esboniad mwyaf dilys yw bod yr enw Caerfyrddin yn deillio o'r enw Maridunum neu Moridunum, a oedd yn gaer Rufeinig ar safle tref Caerfyrddin fel ag y mae heddiw.
Yr enw Cymraeg ar Brittany yw Llydaw. Awgrymir yma ei bod yn cynnwys dwy elfen: lled (yn rhannol) a taw (distawrwydd).
Y Ddraig Goch - Credyd:
Calum Hutchinson
Mae'r disgrifiad o'r 'ail ormes' yn debyg iawn i'r hyn a ddisgrifir gan Nennius yn Historia Brittonum (Hanes Prydain/History of Britain, c.830), a chan Sieffre o Fynwy (Geoffrey of Monmouth) yn Historia Regum Britanniae (Brut y Brenhinedd/History of the Kings of Britain, c.1138).
Yn fersiwn Nennius, y mae'r pennaeth Gwertheyrn/Vortigern yn methu ag adeiladu caer yn Ninas Emrys (‘Fortress of Ambrosius’) ger Beddgelert yng Ngwynedd oherwydd brwydr danddaearol rhwng draig goch (sy'n cynrychioli'r Prydeinwyr brodorol/y Cymry) a draig wen (sy'n cynrychioli'r Sacsoniaid/y Saeson).
Darogenir gan Ambrosius y bydd y ddraig wen yn teyrnasu am sbel go hir, ond y bydd yn y pen draw yn cael ei threchu gan y ddraig goch. Yn fersiwn Sieffre, y mae'r stori i bob pwrpas yr un fath, heblaw'r ffaith mai Myrddin/Merlin sy'n darogan canlyniad y frwydr. Yn Lludd a Llefelys manteisir ar y cyfle i egluro tarddiad yr enw Dinas Emrys.
Heddiw, y ddraig goch yw canolbwynt baner genedlaethol Cymru.
Dinas Emrys - Credyd:
Peter Shone
Dywedir mai Cad Gamlan (Battle of Camlan) oedd brwydr derfynol y Brenin Arthur chwedlonol, ac iddo gael naill ai ei ladd neu ei glwyfo'n angheuol ynddi. Cyfeirir ati yn Annales Cambriae ac yn Historia Regum Britanniae Sieffre o Fynwy. Y mae sawl cyfeiriad ati hefyd yn Breuddwyd Rhonabwy.
Y mae cryn ddyfalu wedi bod ynghylch lleoliad Cad Gamlan. Ymhlith y lleoedd a awgrymir y mae Queen Camel yng Ngwlad yr Ha'; y Gaer Rufeinig Camboglanna (Castlesteads) ar Wal Hadrian; Camelon ger Falkirk yn yr Alban; a Chwm Camlan ger Ganllwyd, i'r dwyrain o Ddolgellau yng Ngogledd Cymru. (Un o isafonydd Afon Mawddach yw Afon Camlan).
Rhaeadr yng Nghwm Camlan - Credyd:
Keith Havercroft
Castell Penfro ar lannau Afon Cleddau - Credyd:
Chris Downer
Y mae dwy afon yn Sir Benfro o'r enw Cleddau, sef Cleddau Ddwyreiniol a Chleddau Orllewinol. Y mae'r ddwy afon yn ymuno yn Picton Point i ffurfio Afon Cleddau sy'n cyrraedd y môr yn Aberdaugleddau (Milford Haven).
Tua chyfeiriad Pumlumon o gronfa dŵr Nant-y-moch - Credyd:
Nigel Brown
Cadwyn o fynyddoedd yng ngogledd Ceredigion yw Pumlumon a elwir yn Saesneg yn Plynlimon. Fel y mae'r enw yn awgrymu y mae pum copa ym Mhumlumon, a'r uchaf o'r rhain yw Pen Pumlumon Fawr. Enw un o'r capaon eraill yw Y Garn, ond nid yw'r enw penodol Garn Gwylathr wedi'i gofnodi.
Roedd Maelgwn Gwynedd a fu farw yn 547 yn llywodraethwr ar deyrnas Gwynedd yn ystod ail chwarter y chweched ganrif. Dywedir i'w lys fod yn Neganwy yng Ngwynedd, wrth aber Afon Conwy.
Bu i'w fab Rhun Hir ap Maelgwn lywodraethau ar Wynedd rhwng 547 a 586. Credid ar un adeg bod marwnad iddo o'r enw Marwnad Rhun wedi'i ei hysgrifennu gan Taliesin, y bardd Cymraeg o'r chweched ganrif, ond ni chredir bellach fod hyn yn wir.
Adfeilion Castell Deganwy - Credyd:
Jonathan Wilkins
Manylyn o ffresgo o'r bedwaredd ganrif ar ddeg - Credyd:
Ambrogio Lorenzetti
Bwrgwyn yw'r enw Cymraeg ar Burgundy
Yn y cyfnod canoloesol hwyr, roedd Bwrgwyn yn un o gynhyrchwyr gwlân mwyaf Ewrop. Roedd gan Ddugiaeth Bwrgwyn (Duchy of Burgundy) reolaeth ar y fasnach gynhyrchu brethyn yn Fflandrys (Flanders), ac ystyrid llysoedd y Ddugiaeth yn Bruges, Lille a Brussels yn arweinwyr y byd ffasiwn aristocrataidd.
'Départements et régions' yn Ffrainc - Credyd:
historicair
Yn ei chyfieithiad o'r Mabinogion (2007), y mae'r Athro Sioned Davies yn cyfieithu hyn fel 'And a fine black gascon horse was brought'. Y mae Gascony yn un o ddugiaethau hynafol de-orllewin Ffrainc. Nid yw'n hollol glir lle'r oedd ei ffiniau, ond cydnabyddir yn gyffredinol mai'r ardal i'r de-ddwyrain o Bordeuax yw, â'r département o'r enw Gers (yn ardal y Midi-Pyrénées) yn ganolbwynt iddi.
Cliciwch yma i ddarllen mwy am geffylau yn ystod yr Oesoedd Canol.
Y Brenin Arthur fel y'i portreadir mewn tapestri o'r bedwaredd ganrif ar ddeg.
Fel sy'n dod i'r amlwg yn nes ymlaen yn y stori, lleoliad 'llys Arthur' yw Caerllion ar Wysg (Caerleon on Usk), sydd ar Afon Wysg yn ne-ddwyrain Cymru nid nepell o Gasnewydd. Yn y stori fwy hynafol Culhwch ac Olwen, dywedir mai lleoliad llys y Brenin Arthur yw Celli Wig yng Nghernyw. Ceir gweld felly ddylanwad Historia Regum Britanniae (Brut y Brenhinedd) a ysgrifennwyd gan Sieffre o Fynwy, ac sy'n enwi Caerllion fel llys Arthur.
Y mae sawl lle wedi'i grybwyll ar gyfer lleoliad Celli Wig yng Nghernyw, gan gynnwys Penwith (Calliwith ger Bodmin), a'r gaer yn Castle Killibury.
Caerloyw yw'r enw Cymraeg ar Gloucester yn ne-orllewin Lloegr.
Un o goedwigoedd hynafol Lloegr sydd wedi goroesi yw Fforest y Ddena (Forest of Dean) a leolir i'r gogledd o Afon Hafren yn rhan orllewinol Swydd Gaerloyw (Gloucestershire).
Fforest y Ddena - Credyd:
Vix_B
Heddiw, y mae Caerdydd yn brifddinas Cymru. Yn wreiddiol, caer Rufeinig oedd Caerdydd (‘y gaer ar Afon Taf’) ond ni wyddys rhyw lawer am hanes yr ardal rhwng gadael y Rhufeiniaid a'r Goresgyniad Normanaidd. Ar ôl y goresgyniad, daeth Caerdydd yn dref fach Seisnigaidd, a chanddi, erbyn diwedd y drydedd ganrif ar ddeg, ryw ddwy fil o boblogaeth. Un o adeiladau pwysicaf y dref yw ei chastell canoloesol a drawsnewidiwyd yn blas adfywio-gothig (gothic-revival) yn ystod oes Fictoria.
Yn 'Tair Rhamant' Y Mabinogion (yn wahanol i sawl un o'r chwedlau eraill) y mae'r cyfeiriadau daearyddol ar y cyfan yn aneglur a di-enw, sy'n gwneud y cyfeirio penodol at Gaerdydd braidd yn drawiadol.
Manylyn ar wal neuadd wledda Castell Caerdydd - Credyd:
Wolfgang Sauber
Hafren yw'r enw Cymraeg ar y River Severn, yr afon hiraf ym Mhrydain Fawr. Mae'n codi ym Mhumlumon (gweler y map) ac yn ymarllwys i Fôr Hafren (Bristol Channel). Mae dinasoedd Caerwrangon (Worcester) a Chaerloyw (Gloucester), a thref Amwythig (Shrewsbury) i gyd ar lannau Hafren.
Afon Hafren wrth bont Cilgwrgan- Credyd:
kevin skidmore