A
NODER BOD YR EIRFA HON YN DILYN CONFENSIYNAU GEIRFAOEDD SAESNEG AC NID CONFENSIYNAU CYMRAEG O RAN TREFN YR WYDDOR
aer
etifedd
afallen
pren afalau
aflafar
cras
afwynau
awenau
anghyfannedd
heb na thai (cyfanheddau) na phobl
anner
buwch ifanc; heffer
anniben
aflêr; anhrefnus
arddel
cydnabod; noddi; cymryd plaid rhywun
arffedaid
llond yr arffed; llond y gôl
aruthredd
ofn; arswyd; erchylltra
arwisgo
urddwisgo; awdurdodi
asgellu
rhoi plu ar saethau
asgwrn morfil
math o ifori
asur
carreg werthfawr o liw glas a ddefnyddir i gynhyrchu priddliw o'r enw lapis-laswli (lapis lazuli)
aswy
yr ochr chwith
awch
min (i gyllell, cleddyf ac ati)
bacsen
hen hosan y mae ei throed wedi'i thorri ymaith
baedd coed
baedd gwyllt; mochyn gwyllt
banw
mochyn ifanc wedi ei ddiddyfnu; porchell
bara can
bara gwyn o ansawdd da
barwn
uchelwr; arglwydd
bêr (lluosog: berau)
darn o fetel a roir drwy gig er mwyn ei rostio o flaen tân; sgiwer
biswail
tail neu dom gwartheg
bleiddast (weithiau, bleiddiast)
blaidd benyw
bogel
cnap bychan crwn ar ganol tarian
bonion (unigol: bôn)
gwreiddiau
botasen
esgid uchel sy'n cyrraedd y pen-glin neu groth y goes
brethyn Totnes
brethyn o dref Totnes yn Swydd Ddyfnaint
brithlwyd
disgrifiad o liw ceffyl: llwydlas; brithlas; glas ysmotiog; ('dapple-grey' yn Saesneg)
broch
mochyn daear
brwysgedd
meddwdod (medd-dod)
brychlas
disgrifiad o liw ceffyl: ag ysmotiau glas neu lwyd ('dapple-grey' yn Saesneg); gweler hefyd 'brithlwyd'
bwch
gafr wryw
bwcran
math o ddefnydd: naill ai o sidan, neu gotwm, neu frethyn bras
byrgoed
llwyni; coed bach; prysglwydd
cadfridogion
arweinyddion byddin
cadlys
buarth castell; beili
Caer Gystennin
yn Saesneg: Constantinople
calch glas
enamel a ddefnyddid i addurno arfau a chyfrwyau
camataliwr
un sy'n cadw eiddo rhywun arall yn anghyfreithlon
cardotes
begeres
carennydd
tras; perthynas
cares
perthynas benywaidd
carn
dwrn cleddyf neu gyllell; y rhan o gleddyf neu gyllell y mae rhywun yn gafael ynddo
carnedd
tomen gladdu; tomen o gerrig garw
carnleidr
penlleidr; ysbeiliwr; lleidr pen ffordd
caruaidd
cariadus; caredig; hyfryd
catrawd (lluosog: catrodau)
uned arbennig o filwyr dan awdurdod swyddog uchel
cawg
powlen; llestr; dysgl; basn; cwpan
cefnen
esgair; llethr; bron neu grib mynydd
ceiswyr
rhai sy'n gofyn am rywbeth; ymofynwyr
celwrn
casgen; ystên; twba; bwced; llestr
cen
haenen o rywbeth, gan gynnwys darnau bychain o groen a gollir (yn Saesneg: scurf)
cenadwri
neges; comisiwn; cenhadaeth
cenau
anifail ifanc sawl rhywogaeth, fel blaidd, cath, ci, llew
cenfaint
haid (yn enwedig o foch); praidd
cenglau
rhwymynnau o ledr neu o liain i gadw cyfrwyau yn eu lle ar geffyl
cenllysgen
ceseiren; mân ronyn o ddŵr wedi'i rewi sy'n disgyn fel rhan o gawod
cerrig sugno
meini ocsid o haearn a chanddynt nodweddion magnetig (yn Saesneg: 'loadstones' neu 'lodestones')
cerwyn
casgen; twba
ceubren
pren neu goeden sy'n wag yn y canol drwy bydredd neu henaint; stwmp (fel stwmp coes neu fraich osod)
ceudod
lle caeedig neu wag
chwannog
awyddus; eiddgar; barus
chwennych
dymuno; chwenychu; chwantu
cilfach
cornel fach
cilwenu
glaswenu; gwenu mewn ffordd ddirmygus neu ffals
clerigwr
offeiriad neu rywun sydd mewn swydd grefyddol
clesbyn
broets
clwydau
gwiail wedi eu cydblethu i ffurfio fframau hirsgwar
cnepyn
cnap; talp; darn; botwm
cod
bag; cwd; sach
conyn (lluosog: cawn)
brwynen; gwelltyn
côr
lle mewn stabl neu feudy i geffylau neu fuchod orffwys
cosfa
cweir; crasfa
crochan
llestr crwn o bridd neu fetel; pair
croth
cefn y goes rhwng y ffêr (migwrn) a'r pen-glin
croyw
heb fod yn hallt (pan ddisgrifir bwyd)
crug
bryncyn; carnedd
cwdyn
bag; cwd
cwfaint
lleiandy
cydynnau (unigol: cudyn)
llywethau (darnau o wallt neu flew)
cyfain
ffurf luosog 'cyfan'
cyfannedd
ardal lle y mae pobl yn byw
cyfarch gwell
cydnabod/cyfarch rhywun wrth ei gyfarfod/chyfarfod; croesawu
cyfeddach
cyd-yfed; gwledda; gloddesta
cyfled â
mor llydan â
cyfranc
chwedl; hanes; stori
cylfin (gylfin)
pig aderyn
cylla
bol; stumog
cymeradwy
gwerth ei dderbyn; teilwng
cynneddf
dawn naturiol
cyrchu
mynd at; dod at
cystuddiol
gofidus; helbulus
cywain
cludo at storfa
cyweirio
paratoi; trefnu; gosod mewn trefn
cywely
rhywun sy'n rhannu gwely gyda rhywun arall
dadwrdd
twrw; cyffro
datseinio
atseinio; diasbedain
deifio
rhostio, crasu neu llosgi (cig)
deiliad
un dan awdurdod neu rwymau arglwydd neu frenin
delysg
math o wymon bwytadwy
dengwr
deg gŵr
dengwr a deugain
pum deg gŵr
deuparth
dwy ran o dair
deuwr
dau ŵr
dibrin
hael; helaeth; toreithiog
dihysbyddu'r maes
yn llythrennol 'gwacáu' neu 'ddefnyddio'r cyfan' o'r maes: yn ei gyd-destun yr ystyr yw mynd yn gyflym iawn
distain
prif ystiward llys, capten y gwarchodlu (gweler hefyd 'gwarchodlu' a 'stiward llys')
disyfwr
deisyfwr; erfyniwr; ymbiliwr; eirchiad
diwair
pur; dihalog
diwallu
digoni; cyflenwi
diwarafun
diwrthwynebiad; di-rwystr
dolurio
peri poen, galar, gofid neu drallod
drygfyd
anffawd; adfyd
drylliedig
toredig; wedi'i dinistrio/ddinistrio
drysïen
llwyn pigog y mae rhosyn gwyllt yn tyfu arno; llwyn draenen; miaren
dwrdio
ceryddu; dweud y drefn (wrth)
dwrn
y darn o erfyn (cleddyf, cyllell) y gafaelir ynddo
dygymod
cymodi; dod i delerau neu gyd-ddealltwriaeth
egrynu
crynu; wedi'i dychryn/ddychryn
eingion
bloc o haearn a ddefnyddir gan of i guro metel
einioes (einoes)
bywyd dyn; oes; hoedl
eirchiaid
y sawl sy'n gofyn am rodd neu gymwynas
elain
carw ifanc; ewig
ellyn
rasel
elor
ffrâm o goed y cludir arch arni
epil
rhai bychain/ifainc anifeiliaid
erchi
gofyn; ceisio; erfyn
erchwyn
ochr neu ymyl, yn enwedig ochr y gwely
esgair
trum, cefnen hir o fynydd
esgynfaen
maen a ddefnyddir i hwyluso esgyn ar geffyl
esgynloriau
lloriau dyrchafedig; llwyfannau
ewig
carw benyw neu garw ifanc
ffawydd
coed o'r genws Fagus (Saesneg: 'beech')
ffinidwydd
pinwydden
ffiol
llestr pren i ddal dŵr; cwpan; costrel; powlen
ffion
rhosyn neu un o fysedd y cŵn
ffrewyll
chwip; fflangell
ffust
teclyn a ddefnyddid i ddyrnu ŷd â llaw
gafaelgi
ci tarw (Saesneg: 'mastiff' neu 'bulldog')
gelen benfawr
anelid sy'n perthyn i'r dosbarth 'Hirudineae' yw 'gelen' (Saesneg: 'leech'). Yn ei chyfieithiad o'r Mabinogion, y mae Sioned Davies yn cynnig 'horse leech' am 'gelen benfawr'.
gïau
gewyn (Saesneg: 'sinew')
glwth
soffa; mainc esmwyth
gochel (rhag)
cilio (rhag); osgoi
gochl
mantell; (dan gochl: gan smalio; gan esgus)
goddiweddyd
cyrraedd/dod yn gyfochrog â rhywun/rhywbeth wedi bod y tu ôl iddo/iddi
goganu
dychanu; gwawdio; difrïo
gogyfuwch
cyfartal o ran uchder
gollyngwr
y sawl sy'n gollwng neu ryddhau y cŵn hela
golosg
siarcol; yr hyn sy'n weddill ar ôl i bren gael ei fudlosgi
goludog
cefnog; ariannog
gordderch
cariad, carwr (yn gadarnhaol); godinebwr; putain (yn ddifrïol)
gordderchu
caru; mynegi serch wrth
gordderchwragedd
cariadon; merched sy'n cydfyw â dyn heb fod yn briod; puteiniaid
goreuraid
haenen denau o aur neu eurlliw
gosgordd
llu o ganlynwyr; grŵp o filwyr yng ngwasanaeth arglwydd neu frenin
gosgorddlu
grŵp o hebryngwyr; gwarchodlu
gosteg
cyhoeddiad; datganiad
griffwnt
anifail chwedlonol a chanddo ben, pig, ac adenydd eryr a chorff llew (Saesneg: 'griffin')
gwaell ei ysgwydd
yr asgwrn a elwir yn 'bont yr ysgwydd' (Saesneg: 'collar bone')
gwahardd
gorchymyn i ymatal
gwain
cas i ddal cleddyf neu gyllell
gwala
digonedd
gwalau
ffeuau anifeiliaid gwylltion
gwalch
aderyn ysglyfaethus; hebog; cudyll
gwanu
trywanu; ergydio
gwaradwyddo
sarhau; cywilyddio
gwaradwyddus
ffiaidd; aflan; cywilyddus
gwarchodlu
dynion sy'n amddiffyn a gofalu am frenin neu arglwydd
gwarthaflau
dolennau neu gylchoedd metel sy'n hongian o gyfrwy ceffyl i gynnal traed y marchog
gwastrodion
dynion sy'n gofalu am geffylau; ystablwyr
gwaywffon
erfyn hir a chanddo flaen llym; picell
gweddaidd
gweddus; addas; cwrtais
gwegil
y tu ôl i'r pen neu'r gwddf; gwar
gweilgi
môr; cefnfor; eigion
gweirglodd
dôl; cae gwair
gwellau
teclyn fel siswrn mawr a chanddo ddau lafn miniog
gwelltyn
coes neu fôn planhigion grawn
gwernenni
hwylbrenni
gwiail
brigau'r helyg a ddefnyddir ar gyfer gwneud eitemau amrywiol megis basgedi
gwinau
browngoch; rhuddgoch; eurfrown (disgrifiad o liw gwallt)
gwirodydd
diodydd cadarn
gwledig
tywysog; arglwydd; llywodraethwr
gwlithyn
defnyn o wlith
gwrach
gwraig oedrannus hyll
gwreica
chwilio am wraig
gwrhydri
dewrder; nerth eithriadol
gwrthdir
ucheldir
gwrthergyd
hwrdd neu drawiad yn ôl; gwrthguriad
gwrych
blew garw sy'n tyfu ar anifeiliaid
gwryd
mesur o chwe throedfedd, yn enwedig wrth fesur dyfnder y môr
gwyrda
uchelwyr; pendefigion; gweision da; arwyr
gwystl
yr addewid a roir i elyn drwy drosglwyddo person i'w ddywlo; y person a drosglwyddir
gwystlo
addo'n ddifrifol; rhoi ernes neu wystl; rhoi unigolyn/unigolyn yn wystl/wystlon
hafn (tarian)
cau, gwag neu geuol ar darian (Saesneg: 'hollow')
helm
darn o arfogaeth sy'n diogelu pen milwr
hem
bollt/hoelen i uno dau ddarn o fetel; rhybed; gwrth-hoel
hemio
uno â hemau; rhybedio/rhybedu
henffych well
geiriau cyfarch
hepgor
gwneud y tro heb; sbario; gadael allan
herwyr
lladron; ysbeilwyr
heyrn
haearn; darnau haearn yr aradr
hindda
tywydd sych; tywydd braf
hinon
tywydd sych; tywydd braf
hobau
moch
hoedl
bywyd; oes; einoes/einioes
hogi
rhoi min neu awch ar rywbeth fel cyllell neu gleddyf
hugan
mantell; clogyn
hydd
carw; carw gwryw
hygyrch
hwylus/hawdd mynd ato/ati
hynodrwydd
arbenigrwydd; nodwedd
hywedd
wedi cael hyfforddiant; disgybledig
iad
rhan uchaf y pen; corun
ir
ffres; gwyrdd
iraid
eli; ennaint
irfrwyn
brwyn ffres
llannerch
lle agored mewn coedwig
llathru
caboli; sgleinio
llathrwr
un sy'n llathru neu loywi; cabolwr
llefrith glastwr
llefrith/llaeth heb hufen, ac wedi'i deneuo â dŵr
llemdost
(ffurf fenywaidd ar 'llymdost') caled; creulon; llym
lliainwisg
rhywbeth i'w wisgo wedi'i wneud o liain
llifiau
rhathellau; ffeiliau
llin
planhigyn y mae lliain yn cael ei wneud o'i ffibrau
lliprynnaidd
llipa; diymadferth; esgyrnog
llodrau
trowsus pen-glin; clôs
lluestai
trigfannau dros dro wedi'u codi ar frys (yn enwedig ar gyfer milwyr)
llwydwyn
gwynllwyd; llwyd golau
Llychlyn
Norwy; Sgandinafia
macwy
llanc; gwas ifanc; ysgwïer (gweler hefyd 'sgwier')
maenor
uned diriogaethol a gweinyddol yng Nghymru ers talwm
meddgell
cell fedd; seler ddiod
meichiad
ceidwad moch; bugail moch
meichiau
y sawl sy'n rhoi sicrwydd y bydd addewid yn cael ei chadw; gwystl; ernes; mechnïaeth
meingefn
rhan gulaf y gefn
meudwy
person sy'n byw mewn lle anghysbell mewn unigedd am resymau crefyddol; ancr
Môr Udd
Môr y Gogledd
morwynig
merch ifanc
muchudd
math o goedlo ('lignite') du y gellir ei ddefnyddio i wneud tlysau ac ati (Saesneg: 'jet')
musgrell ei synnwyr
hurt; twp
mynwair
coler; torch
negesau
materion busnes; tasgau neu waith arbennig
neithior
gwledd briodas
o'm hanfodd
yn erbyn fy ewyllys
oed
cytundeb i gyfarfod (yn enwedig rhwng cariadon)
offerennau
gwasanaethau yn yr Eglwys Gatholig sy'n cynnwys weinyddu'r sacrament
osler
gwas stabl; gwastrawd; ostler
padell
padell y glin: yr asgwrn a elwir yn 'patella' (Saesneg: 'knee-cap')
pais
tiwnig; siaced
paladr
coes picell/gwaywffon
pared
wal, mur; gwahanfur
pastwn
ffon hir
pencerdd
bardd o'r radd uchaf
pendefig
brenin; tywysog;pennaeth; rheolwr
penlliain
penwisg neu orchudd pen i ferch
penteulu
pennaeth gosgordd y llys; capten y gwarchodlu; stiward
penyd
cosb (yn enwedig un a benodir gan offeiriad fel amod maddeuant)
peri (paraf ac ati)
creu; llunio; gwneud
pibellog
ar ffurf pibell neu diwb
picell
erfyn hir a chanddo flaen llym; gwaywffon
pilen
haenen hyblyg o groen (neu ddeunydd arall) (Saesneg: 'membrane')
pladurwyr
y sawl sy'n lladd gwair; medelwyr
plygain
'caniad y ceiliog' (hefyd, yr enw ar wasanaeth eglwysig a gynhelid yn gynnar iawn yn y bore)
polyn y gadlys
postyn ym muarth castell
porchell
mochyn bach; mochyn sugno
porthiant
bwyd
praff
cadarn; cryf; grymus
praffter
cryfder
preseb
y cafn neu focs agored y mae anifail yn bwyta ohono
priddfeini
brics wedi'u gwneud o bridd
prydweddol
golygus
prysgwydd
llwyni; coed bach; prysglwyni
pwn (lluosog: pynnau)
llwyth; baich; sach; cwdyn
pwt
rhywbeth byr
pyg
sylwedd gludiog du; bitwmen (Saesneg: 'pitch')
rhaglawiaid
dirprwyon
rhagynys
ynys gyfagos
rhigol
rhych; cwys
rhiniol
yn meddu ar bwerau goruwchnaturiol; cyfriniol
rhithio (yn)
troi (yn); trawsffurfio (yn) drwy rym goruwchnaturiol
rhuddaur
aur wedi'i gymysgu â chopr
rhwyllwaith
adeiladwaith o bren neu fetel/addurniad a chanddo fariau ar groes ac i lawr; delltwaith
rhydau'r môr
culforydd
Rhydychen
Oxford
rhygyngu
cerdded yn llyfn neu'n hamddenol
rhyngu (ei fodd)
ei blesio; ei foddhau; ei fodloni
saffir
carreg las, dryloyw, werthfawr
seigiau
cyrsiau mewn pryd o fwyd; dysgleidiau o fwyd
sengyd (fel yn 'sengi')
gwasgu neu wthio
serig
sidan; damasg
sgwier
(hefyd, sgweier; sgweiryn; ysgwïer, ysgwieryn; ysgweir) gwas marchog; person nesaf ei radd islaw marchog; swyddog i frenin
sidanwe
sidan gweedig
sorri
digio; pwdu; llyncu mul
stiward llys
swyddog sy'n trefnu pethau domestig mewn llys brenhinol: distain llys
swch
blaen (rhan flaenllym)
swrcot
côt uchaf, yn aml iawn wedi'i gwneud o ddeunydd coeth
syndal
math o liain main sidanaidd
taeogion
gweithwyr nad ydynt yn rhydd, sy'n gaeth i dir brenin neu uchelwr
tebygu
meddwl; credu
tir âr
tir aredig
tomlyd
mwdlyd; budr
torch
cadwyn o fetel cordeddog a wisgid am y gwddf neu'r fraich
torllwyth
beichiogrwydd
trefgordd
plwyf neu bentref (Saesneg: 'township', yn ei hystyr hanesyddol)
trennydd
ymhen dau ddiwrnod; ddau ddiwrnod wedyn
troellau'r ysbardunau
troellau: dyfeisiau pigog ar ffurf olwyn; ysbardunau: dyfeisiau metel a chanddynt droellau neu bigyn bychan a ddefnyddir i annog ceffyl yn ei flaen
trum
bryn; brig; esgair; cefnen
trumiog
bryniog; uchel; serth
tryfer
fforch dridant; picell driphen
tuchan
grwgnach; cwyno
tulathau
trawstiau; croeslathau
tuth
symudiad ceffyl ar gyflymder rhwng trotian a charlamu
twmpath morgrug
y domen o bridd neu dywod y mae morgrug yn ei hadeiladu'n gartref iddynt eu hunain
twrch
baedd coed; mochyn gwyllt
tywys
y rhan o blanhigyn grawn sy'n cynnwys y blodau neu'r hadau
unben(nes)
uchelwr(aig); tywysog(es); pen-arglwydd(es), brenin (brenhines)
urddo
gwneud yn farchog
ymaflyd
gafael; cipio
ymerodres
gwraig ymerawdr; gwraig sy'n llywodraethu ymerodraeth
ymgeledd
gofal, swcwr
ymgiprys
ymryson; ymladd
ymlafnio
llafurio; ymladd
ymlid
hel neu erlid
ymysgaroedd
perfedd; coluddion
ysbarduno
pricio ceffyl ag ysbardunau i'w annog yn ei flaen (gweler 'troellau'r ysbardunau')
ysbeildy
lle mae lladron yn ymgynnull
ysbeilio
lladrata drwy drais
ysbytwr
rhywun sy'n gofalu am bererinion ac ymwelwyr; aelod o urdd grefyddol sy'n cynnig gofal i gleifion; un o Farchogion yr Ysbyty (Saesneg: 'Knights Hospitallers')
ysgythru
naddu; cerfio; engrafio; arysgrifennu
ysigo
dryllio; dymchwel
ystenaid
llond ystên; llond piser
ystrad
dyffryn
ystryw
gweithred neu gynllun twyllodrus
ystyllen
astell; planc
yswain (lluosog: ysweiniaid)
gwas bach; cludydd arfau; macwy (gweler 'macwy' a 'sgwier')