CYMRU

 

Golygfa o Dre'r Ceiri yng Ngwynedd
Creative Commons Attribution Share AlikeGolygfa o Dre'r Ceiri yng Ngwynedd - Credyd: Gordon Hatton

 

Mynydd Carningli yn Sir Benfro
Creative Commons Attribution Share AlikeMynydd Carningli yn Sir Benfro - Credyd: Richard Webb
Cofeb Llywelyn ap Gruffudd yng Nghilmeri
Public DomainCofeb Llywelyn ap Gruffudd yng Nghilmeri - Credyd: Rhion Pritchard

Lleolir chwedlau'r Mabinogion mewn llawer o lefydd gwahanol yng Nghymru, yn enwedig yn hen deyrnasoedd Gwynedd yng ngogledd-orllewin Cymru, a Dyfed yn ne-orllewin Cymru. Yn nes ymlaen, daeth tiriogaeth teyrnas Gwynedd yn siroedd Môn, Caernarfon, Meirionnydd a Dinbych, a thiriogaeth teyrnas Dyfed yn siroedd Penfro a Chaerfyrddin. Atgyfodwyd yr enwau Gwynedd a Dyfed fel enwau siroedd yn 1974, er i'r enw Dyfed gael ei ddileu eto yn 1996.

Yn ystod y cyfnod ôl-Rufeinig roedd nifer o fân deyrnasoedd yng Nghymru, a'u llywodraethwyr yn brywdro yn erbyn ei gilydd i ymestyn ffiniau eu teyrnasoedd. Yn y ddeuddegfed ganrif a'r drydedd ganrif ar ddeg, bu i ddau dywysog Gwynedd, Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) a  Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn Ein Llyw Olaf), ddod yn agos at uno Cymru o dan un arweinydd, ond pan gafodd Llywelyn ap Gruffudd ei drechu yng Nghilmeri yn 1282, daeth Cymru i bob pwrpas yn un o drefedigaethau Lloegr. Cafwyd amharu pellach ar ei rhyddid yn ystod cyfnod Harri'r Wythfed pan basiwyd y Deddfau Uno a sicrhaodd fod Cymru o dan gyfundrefn Lloegr ym maes gweinyddu yn gyffredinol ac ym maes y gyfraith. Roedd y cymal iaith a waharddodd y defnydd o'r Gymraeg mewn bywyd cyhoeddus yn arbennig o andwyol ei effaith.

Erbyn heddiw y mae poblogaeth Cymru ryw fymryn dros 3 miliwn. Y mae tuag ugain y cant o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg, ac y mae bywyd llenyddol a cherddorol drwy gyfrwng y Gymraeg yn ffynnu. Y mae'r Deddfau Iaith wedi gwella sefyllfa siaradwyr Cymraeg yn y llysoedd yn sylweddol, ac y mae cynnydd enfawr wedi bod mewn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Y mae hunaniaeth y genedl wedi dod yn fwy amlwg hefyd ers sefydlu'r Cynulliad (yn sgil refferendwm 1997) a rhoi cartref iddo yn adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd.

Cliciwch yma i gyrraedd gwefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cliciwch yma i gyrraedd gwefan Llywodraeth Cymru.

 

Google Map

 

YNYS PRYDAIN
Pre-Roman southern Britain
Creative Commons Attribution Share AlikeDe Prydain yn y cyfnod cyn-Rufeinig - Credyd: Notuncurious

Yn Ail Gainc y Mabinogi ac yn Lludd a Llefelys, ceir cyfeirio at 'yr ynys hon' ac at Ynys Prydain, a Llundain yn ganolbwynt iddi. Yn yr Ail Gainc, cyfeirir at Brydain fel Ynys y Cedyrn, ac y mae cyfeiriadau eraill at Ynys Prydain mewn mannau eraill yn Y Mabinogion. Y mae hyn yn tanlinellu pwysigrwydd y cysyniad o 'Brydain' i'r Cymry, a oedd yn eu hystyried eu hunain yn ddisgynyddion y Prydeinwyr Celtaidd a oedd yn byw ym Mhrydain cyn iddi gael ei goresgyn gan newydd-ddyfodiaid, gan gynnwys y Rhufeiniaid, y Jiwtiaid (Jutes) yr Eingliaid (Angles) a'r Sacsoniaid.

A'u meddylfryd wedi'i ddylanwadu arno gan hanes (neu ffug-hanes) fel y portreadwyd yng ngweithiau awduron fel Gildas, Nennius a Sieffre o Fynwy, daeth y Cymry i gredu eu bod ar un adeg wedi bod yn arweinwyr Ynys Prydain, ac y byddent ryw dro yn y dyfodol yn adennill eu goruchafiaeth arni. Dyma felly yw'r meddylfryd sydd y tu ôl i'r syniadaeth ynghylch Ynys Prydain sydd i'w gweld yn chwedlau'r Mabinogion a chwedlau canoloesol Cymraeg eraill.

Anodd, wrth gwrs, yw gwybod pa fath o syniad o 'Ynys Prydain' a oedd yn bodoli ymhlith y llwythi Celtaidd gwahanol a oedd yn byw ym Mhrydain cyn y goresgyniad Rhufeinig. Y Rhufeiniaid a roddodd yr enw Britannia ar Brydain, a daeth Londinium (Llundain bellach) yn un o'u prif ganolfannau masnachu. Mae'n debyg felly mai'r Rhufeiniaid a oedd yn bennaf cyfrifol am greu'r syniad o Brydain fel uned, a  Llundain yn ganolbwynt iddi. 

Ar ôl i'r Rhufeiniaid adael Prydain yn gynnar yn y bumed ganrif, cafodd yr ardaloedd a adnabyddid fel Britannia eu meddiannu gan y Jiwtiaid, yr Eingliaid a'r Sacsoniaid. Fel canlyniad, cafodd Celtiaid Prydain (sef y sawl a siaradai ieithoedd a oedd yn deillio o  Frythoneg: sef Cymraeg, Cymbrieg a Chernyweg) eu cyfyngu i dde-orllewin Lloegr, Cymru, a rhannau o ogledd Lloegr a de'r Alban. Mae'n debyg, felly, fod y cysyniad o adennill Ynys Prydain yn ei chyfanrwydd wedi deillio o'r profiadau hyn o golled ac ymgilio.

Weithiau, defnyddir yr enwau Prydain, Prydein neu Prydyn ar gyfer yr hyn a elwir yn Saesneg yn Pictland, hen enw ar ogledd yr Alban. Nid oedd Pictland yn rhan o'r  Britannia Rufeinig.

BYD Y CELTIAID

Y Celtiaid yw'r enw a roddir i'r grwpiau gwahanol a oedd yn byw mewn rhannau o Orllewin Ewrop a Chanol Ewrop yn ystod Oes yr Haearn a chanrifoedd cynnar y mileniwm cyntaf Oed Crist. Deilliai'r ieithoedd a siaredid ganddynt o iaith graidd o'r enw  Proto-Gelteg. Roedd ganddynt hefyd nodweddion yn gyffredin o ran eu celfyddyd a'u crefydd.

Defnyddir yr ansoddair Celtaidd mewn sawl ffordd. Yn gyntaf, defnyddir i ddisgrifio diwylliant y Celtiaid cynnar Ewropeaidd. Gwahaniaethir rhwng dau gyfnod diwylliannol gwahanol, sef yr hyn a elwir yn gyfnod Hallstatt (800-450CC), a enwir ar ôl pentref yn Awstria, a chyfnod La Tène (450-100CC), a enwir ar ôl pentref yn y Swistir. Trwy waith archaeolegol yn y lleoliadau hyn y mae nifer fawr o eitemau wedi dod i'r fei sy'n cael eu hystyried yn nodweddiadol o'r ddau ddiwylliant yn y cyfnodau y cyfeirir atynt.

Yn ail, defnyddir yr ansoddair Celtaidd i ddisgrifio'r ardaloedd lle y siaredir o hyd (neu lle y siaredid tan yn weddol ddiweddar) yr ieithoedd hynny (sef Gwyddeleg, Cymraeg, Gaeleg yr Alban, Llydaweg, Manaweg a Chernyweg) sy'n deillio o'r iaith Proto-Gelteg. Defnyddir yr ansoddair hefyd i ddisgrifio celfyddyd, llenyddiaeth a cherddoriaeth yr ardaloedd hyn.

Yn drydydd, defnyddir y gair Celtaidd mewn ffordd lai manwl i ddisgrifio agweddau ysbrydol neu gyfriniol ar y gorffennol pell sy'n cyfleu teimlad o barch tuag at fyd natur. Y mae felly wedi cael ei gysylltu â mudiadau ysbrydol diweddar fel mudiad yr Oes Newydd (New Age) a'r Baganiaeth Newydd (Neo-Paganism).

 

Distribution of Celts in Europe, 800-200BC (orange area indicates maximum expansion by 3rd century BC)
Creative Commons Attribution Share AlikeDosbarthiad y Celtiaid yn Ewrop 800-200CC (y mae'r adran lliw oren yn dangos ehangu'r Celtiaid ar ei mywaf erbyn y drydedd ganrif Cyn Crist) - Credyd: Dbachmann

 

IEITHOEDD CELTAIDD

Delegates at the 'Celtic Congress', Caernarfon 1904
Public DomainCynrychiolwyr y gwledydd Celtaidd yn y 'Gynghrair Geltaidd', Caernarfon 1904 - Credyd: John Wickens

Iaith Indo-Ewropeaidd oedd Proto-Gelteg a oedd yn sail i nifer o ieithoedd eraill gan gynnwys Galeg (Gaulish) Leponteg (Lepontic), Brythoneg a'r Hen Wyddeleg (sy'n perthyn i'r grŵp ieithyddol a elwir yn Oidelig/Goidelic). Y mae'r ddwy iaith gyntaf wedi hen ddarfod, ond datblygodd y ddwy arall yn ieithoedd eraill: Y Frythoneg yn Gymraeg, Cernyweg, Llydaweg a Chymbrieg (Cumbric); a'r Hen Wyddeleg yn Wyddeleg, Gaeleg yr Alban a Manaweg.

O'r rhain, y mae Cymraeg, Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban a Llydaweg wedi goroesi fel ieithoedd byw. Bu i'r defnydd o Gernyweg a Manaweg (a siaredid ar Ynys Manaw) fel ieithoedd cymunedol ddod i ben yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif, er bod y ddwy ohonynt bellach yn profi adfywiad. Y mae'r defnydd o'r Gymbrieg wedi hen ddarfod, er y credir iddi gael ei siarad mewn rhai mannau yn Cumbria tan y ddeuddegfed ganrif.

Gwrandewch  yma ar 'Weddi'r Arglwydd' mewn Proto-Gelteg, Brythoneg Hynafol (Ancient British) a Brythoneg.

Gwrandewch yma ar gerddi yn cael eu hadrodd mewn Cernyweg

Gwrandewch yma ar Lydaweg

Gwrandewch yma ar Wyddeleg

Gwrandewch yma ar Aeleg yr Alban

Gwrandewch yma ac yma ar Fanaweg

(Noder na fedraf gadarnhau dilysrwydd pob un o'r uchod!)

Gwrandewch yma ar Gymraeg

 

 CELFYDDYD Y CELTIAID

Cross of Cong (12th century)
Public Domain'Croes Cong' (o'r ddeuddegfed ganrif) - Credyd: Margaret Stokes
La Tène-style bronze torques
Creative Commons Attribution Share AlikeTorchau efydd yn null La Tène - Credyd: Johnbod

Fel y nodwyd cynt, rhennir bywyd diwylliannol y Celtiaid yn ddau gyfnod, sef cyfnod Hallstatt a chyfnod La Tène.

Y mae eitemau pwysig o gyfnod Hallstatt wedi'u darganfod mewn beddau. Ymhlith y rhain y mae llawer iawn o eitemau haearn ac efydd fel cerbydau, offer ceffylau, helmedau, tariannau, dagerau a gemwaith, ynghyd â chrochenwaith. Ymhlith eitemau pwysig cyfnod La Tène, y mae gwaith metel cywrain o efydd, arian ac aur gan gynnwys sawl math o gleddyfau, tariannau, blaenau gwaywffyn, dysglau, offer, gemwaith, drychau, cerfluniau ac eitemau yn ymwneud â marchogaeth. Yn y ddau gyfnod dan sylw, nodweddir celfyddyd y Celtiaid gan gymhlethdod a chywreinrwydd y gwneud, ac mae natur a dull yr addurno yn awgrymu fod yna ystyr symbolaidd pwysig yn perthyn iddynt. 

Yn nes ymlaen, ceir math arall ar gelfyddyd Geltaidd, sef gwaith Celtiaid yr Ynysoedd (Insular Celts - trigolion Celtaidd Prydain ac Iwerddon) a wnaed yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar. Enghraifft o hyn yw'r deunydd crefyddol sydd i'w gael mewn llawysgrifau addurnedig fel Llyfr Kells (Book of Kells).

 

Hallstatt period brooch
GNU Free Documentation LicenseBroets o gyfnod Hallstatt - Credyd: Wolfgang Sauber

 

CREFYDD Y CELTIAID

God of Étang-sur-Arroux, possibly Cernunnos
Public DomainDuw o Étang-sur-Arroux, Cernunnos, o bosib - Credyd: PHGCOM

Y mae rhai o'r adroddiadau cynharaf ar gredoau crefyddol y Celtiaid i'w cael yn  ‘Sylwebaethau ar y Rhyfeloedd Galaidd' gan Iŵl Cesar a ysgrifennwyd yn y ganrif gyntaf Cyn Crist. Tueddai ef i bwysleisio'r cysylltiadau rhwng y duwiau/duwiesau Celtaidd a'r rhai Rhufeinig, ffordd o edrych ar y sefyllfa a allai fod yn gamarweiniol. Credir hefyd i rai adroddiadau Rhufeinig orbwysleisio arferion annifyr neu dreisgar fel aberth dynol, arfer y dywedir nad oes tystiolaeth gadarn drosti.

Trwy ddefnyddio tystiolaeth arysgrifau, y mae rhai ffynonellau yn awgrymu bod yna gynifer â phedwar cant o dduwiau/dduwiesau Celtaidd, a  rhai o'r rhain yn cael eu cyfeirio atynt unwaith yn unig. Credir bod amryw ohonynt yn dduwiau/dduwiesau lleol nad adnabyddid ond mewn ardaloedd penodol, ond bod eraill yn adnabyddus dros y byd Celtaidd yn ei gyfanrwydd. Ymhlith y rhai mwyaf adnabyddus, ceir Teutatis, Taranus, Lugus, Epona a Dea Matrona. Ymddengys fod y rhan fwyaf o'r  duwiau/duwiesau Celtaidd yn dduwiau a duwiesau'r ddaear a gysylltid â lleoliadau penodol lle roedd dŵr neu goed. Y mae rhai duwiau fel Cernunnos, y duw corniog, yn dal yn bwysig heddiw ym myd y Baganiaeth Geltaidd Newydd.

O ran defodau crefyddol, y mae wedi ei awgrymu mai un arfer ddefodol bwysig ymhlith y Celtiaid oedd taflu eitemau metel, megis cleddyfau, tariannau, gwaywffyn, olwynion cerbydau, offer ceffylau, peiriau a gemwaith, i afonydd a llynnoedd. Mae tystiolaeth dros yr arfer hon i'w chael mewn sawl lleoliad. Ymhlith y lleoliadau ym Mhrydain, y mae afonydd Witham (yn Swydd Lincoln) a Thafwys (Thames); Llyn Cerrig Bach (Ynys Môn), Llyn Fawr (Morgannwg) a Loch Carlingwark (Dumfries and Galloway) ac ardal yn Swydd Gaergrawnt o'r enw Flag Fen. Y mae'n debyg mai'r arfer hon yw sail y chwedl sy'n sôn am Fedwyr (Sir Bedivere) yn dychwelyd  Caledfwlch (Excalibur), cleddyf y Brenin Arthur, i 'Forwyn y Llyn' ('the Lady of the Lake').

 

Illustration of an Archdruid (1815)
Public DomainDarlun o Archdderwydd (1815) - Credyd: S.R. Meyrick & C.H. Smith

Mewn rhai ysgrifau o Roeg a Rhufain, ceir cyfeirio at fodolaeth corff o offeiriaid Celtaidd ym Mhrydain, Iwerddon a Gâl  o'r enw derwyddon, er na wyddys llawer iawn am eu harferion. Yn ystod y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, bu adfywio diddordeb yn y derwyddon, a bathwyd y term y Dderwyddiaeth Newydd (Neo-Druidism). Un o gymeriadau mwyaf lliwgar y mudiad hwn oedd y Cymro Cymraeg Edward Williams (Iolo Morganwg) a sefydlodd gymdeithas o feirdd, cerddorion ac eraill a enwyd yn Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Honnai Iolo mai hen sefydliad y Derwyddon oedd, ond gwyddys bellach mai ffug oedd y dystiolaeth a gynigiwyd ganddo. Fodd bynnag, bu i'r syniad ennill ei blwyf yng Nghymru a daeth yn ganolbwynt i'r Eisteddfod Genedlaethol. Y mae hefyd fudiad cyfoes o'r enw 'Y Dderwyddiaeth Newydd' (Neo-Druidism) sy'n hollol wahanol i'r traddodiad eisteddfodol Cymraeg.

Rhwng y bumed ganrif a'r wythfed ganrif, bu i Gristnogaeth ymledu dros Ewrop. Yn yr ardaloedd lle siaredid yr ieithoedd Celtaidd, yr arweinwyr oedd seintiau fel Patrick, Columba a Brigid yn Iwerddon; Dewi, Illtud a Deiniol yng Nghymru; a Ninian a Mungo (Kentigern) yn yr Alban.Y mae wedi'i awgrymu bod gan yr Eglwys Geltaidd gynnar nodweddion penodol iawn a hanai o gredoau ysbrydol y Celtiaid cyn-Gristnogol. Fodd bynnag, nid pawb sy'n derbyn mai priodol yw gweld yr Eglwys Geltaidd gynnar fel endid ar wahân i'r Eglwys Gristnogol gynnar yn gyffredinol.